Trwydded Esgusodeb Parcio

Cais am Esgusodeb Parcio (Cerbydau Arferol a Masnachol)

Mae’r drwydded esgusodeb yn rhoi caniatâd i chi barcio lle nad ydi hi’n bosib gwneud trefniadau arall achos:

  • fod llwytho a dadlwytho yno wedi cael ei wahardd neu nad ydi’r cyfnod sy’n cael ei ganiatáu yn ddigonol
  • neu fod sefyllfaoedd lle byddai trefniadau arall ddim yn foddhaol.

Nid yw esgusodeb yn caniatáu parcio cyffredinol. Nid yw'n rhoi caniatâd i'r cerbyd aros yn yr ardal sydd wedi ei wahardd ar ôl i’r cyfnod ddod i ben. Mae'n rhaid i'r modurwr barcio yn rhywle arall wedi hynny. 

  • gwaith adeiladu/cynnal a chadw lle mae'n rhaid cadw'r cerbyd yn agos at yr ardal/safle gweithio
  • symud dodrefn
  • ffitwyr carpedi a glaziers lle mae angen offer mor agos â phosibl at y safle gwaith neu
  • gerbydau sy'n hanfodol i waith ffilmio neu farchnata

  • Lle gall parcio effeithio'n andwyol ar baeau anabl / baeau meddygon / safleoedd tacsis / arosfannau bysiau.
  • Yn agos i gyffordd a reolir gan signal, croesfan i gerddwyr, ar droedffordd neu leoliad arall lle gall parcio achosi perygl i'r cyhoedd neu achosi rhwystr i lif traffig a gwasanaethau hanfodol.
  • Lle mae cyfyngiadau llwytho ar waith a gofynnir am y gwaharddiad yn ystod y cyfnod (au) cyfyngedig hynny.

Rhaid lawrlwytho ffurflen gais a'i dychwelyd i'r Adran Amgylchedd, Gwasanaeth Trafnidiaeth a Chefn Gwlad  (gyda'r ffi) er mwyn gweld os yw'r safle yn addas i'r cyfeiriad isod.

E-bost: gwaithstryd@gwynedd.llyw.cymru 

Cyfeiriad: Adran Amgylchedd, Gwasanaeth Trafnidiaeth a Chefn Gwlad, Stryd y Jel,  Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679437  

Noder: Rhaid caniatáu hyd at 2 ddiwrnod gwaith i roi ystyriaeth i’ch cais.  Byddwch yn derbyn e-bost gan gynrychiolydd o’r Adran Amgylchedd, Gwasanaeth Trafnidiaeth a Chefn Gwlad o fewn 2 ddiwrnod gwaith. 

£30.00 (pris dyddiol fesul cerbyd)

£210.00 (pris wythnosol fesul cerbyd) 

Noder: Bydd rhaid talu’r ffi berthnasol cyn i’ch cais gael ei ystyried.


Talu

Ffôn: Ffoniwch 01766 771 000 i dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd

Post: Gallwch amgáu’r ffi berthnasol gyda’r ffurflen gais (siec yn daladwy i Cyngor Gwynedd)

Noder: Ni fydd ad-daliad os fydd cais yn aflwyddiannus.