Pwyntiau gwefru ceir trydan

Mae’r Cyngor yn datblygu rhwydwaith o dros gant o bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ar draws Gwynedd.

 

Mae mannau gwefru yn weithredol yn y lleoliadau canlynol (trwy ddefnydd ap yn unig ar hyn o bryd):

  • Intec ar Barc Menai, Bangor, LL57 4FG (4 peiriant 7kW)
  • Canolfan Byw’n Iach Penllyn, Y Bala, LL23 7YE (4 peiriant 7kW)
  • Canolfan Byw’n Iach Glan Wnion, Dolgellau, LL40 1LH (4 peiriant 7kW)
  • Canolfan Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli, LL53 5PF (4 peiriant 7kW)

 

Yn ogystal, mae pwyntiau gwefru 50kW hefyd yn weithredol trwy gydweithrediad gyda Thrafnidiaeth Cymru ar safleoedd y Cyngor ym:

  • Maes Parcio’r Grîn, Y Bala, LL23 7NG (1 peiriant);
  • Maes Parcio ger Canolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog, LL49 9NU (2 beiriant);
  • Maes Parcio Diffwys, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ES (2 beiriant);
  • Maes Parcio’r Marian, Dolgellau, LL40 1DL (2 beiriant).

 

Mae gwaith hefyd yn digwydd i osod rhagor o fannau gwefru mewn lleoliadau yn ardaloedd Aberdyfi, Abermaw, Bangor, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Caernarfon, Dolgellau, Harlech, Llanberis, Penygroes, Porthmadog, Pwllheli a Thywyn dros y misoedd nesaf.

 

Bydd yna amrywiaeth o fathau pwyntiau gwefru yn cael eu darparu – 7kW (4awr*), 50kW (40 munud*), 150kW (15 munud*). 

Mae manylion am leoliadau pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Ngwynedd a phrisiau defnyddio’r peiriannau ar gael ar wefan ZapMap (gwefan allanol)

*Amcan amser gwefru i deithio 100 milltir