Help i atal digartrefedd

Os ydych angen help i atal digartrefedd neu i gynnal amgylchiadau tai mwy sefydlog mae cefnogaeth ar gael. 

 

Sut ydw i’n cael cefnogaeth?  

Mae cymorth tai ar gael i unrhyw un 16+ yng Ngwynedd. 

Gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol neu ofyn i rhywun arall gysylltu â ni ar eich rhan.

Cysylltwch â:


Pa fath o gefnogaeth sydd ar gael?

Dyma enghreifftiau o’r cymorth sydd ar gael:   

  • Help gyda phroblemau dyledion a rheoli arian.
  • Help rheoli tenantiaeth a chymorth i setlo a chynnal a chadw cartref.
  • Cymorth gyda chamddefnyddio sylweddau.
  • Cefnogaeth i ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Help gyda materion iechyd meddwl.
  • Mynediad i eiddo cefnogol.
  • Helpu i ddeall, darllen a llenwi ffurflenni, llythyrau a biliau.
  • Cymorth i ddatblygu sgiliau byw ymarferol.
  • Cefnogaeth i chwilio am waith, hyfforddiant a chyflogaeth.
  • Cefnogaeth i ymuno â chymunedau a grwpiau lleol.
  • Cefnogaeth i gysylltu ag asiantaethau.
  • Helpu i ailadeiladu perthnasoedd.
  • Cefnogaeth i ddod o hyd i lety addas. 

 

Mwy o wybodaeth

Mae'r gwasanaeth yma’n cael ei ariannu gan Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru, sy’n comisiynu ac ariannu gwasanaethau a gweithgareddau sy'n atal pobl rhag mynd yn ddigartref, sefydlogi eu sefyllfa dai, neu'n helpu pobl a allai fod yn ddigartref i ddod o hyd i lety a'i gadw.