Llawlyfr gwybodaeth i ymgeiswyr: Ymgeisio am eiddo cymdeithasol yng Ngwynedd

Mae eiddo cymdeithasol yng Ngwynedd yn cael eu gosod i ymgeiswyr sydd ar y Gofrestr Tai Gyffredin.

Mae’r Gofrestr yn cael ei rheoli gan Opsiynau Tai Gwynedd, Cyngor Gwynedd:  


Lawrlwytho cynnwys y dudalen hon fel llawlyfr PDF

Yn gyffredinol bydd y canlynol yn gallu ymgeisio am eiddo cymdeithasol:

  • Preswylwyr y DU sydd dros 16 oed
  • Dinasyddion Prydeinig
  • Dinasyddion Ardal Economaidd Ewrop
  • Rhai pobl sydd yn ddinasyddion y Gymanwlad, ceiswyr lloches a phobl o dramor sydd gyda hawliau penodol i aros yn y DU

Fodd bynnag, efallai y bydd rheswm dilys pam na all rhai pobl fod yn gymwys ar gyfer eiddo cymdeithasol. Gall rhesymau gynnwys: 

  • Pobl o dramor (yn amodol ar yr uchod)
  • Pobl sydd yn destun rheolau mewnfudo
  • Pobl, neu aelodau teulu pobl, sydd i’w trin fel bod yn anghymwys am eiddo cymdeithasol oherwydd eu hymddygiad annerbyniol yn y gorffennol

Beth sydd angen i chi ei wneud:

  • Cwblhau ac arwyddo’r ffurflen gais* – 1 ffurflen gais sydd yn bodoli ar gyfer pob cymdeithas tai
  • Darparu copi o’r wybodaeth angenrheidiol, e.e. cadarnhad o’ch cyfeiriad, hunaniaeth ayyb
  • Darparu gwybodaeth ychwanegol i gefnogi’r cais, e.e. llythyr meddygol, statws digartrefedd

Beth fydd Opsiynau Tai Gwynedd yn ei wneud:

  • Gwirio os ydych yn gymwys i ymgeisio
  • Prosesu eich cais o fewn 10 diwrnod gwaith (os ydych wedi cynnwys yr holl wybodaeth)
  • Os nad ydych wedi darparu gwybodaeth ddigonol, ni fydd eich cais yn cael ei gofrestru
  • Cysylltu â chi i drafod eich cais ac i gadarnhau ym mha fand fydd eich cais

Bydd ceisiadau yn cael eu rhoi mewn un o 4 band yn ddibynnol ar eu hanghenion tai a’u cysylltiad gyda Gwynedd neu beidio.

  • Band 1
    1a – Angen tai ar frys gyda chysylltiad Gwynedd
    1b – Angen tai ar frys heb gysylltiad Gwynedd
  • Band 2
    Angen tai gyda chysylltiad Gwynedd
  • Band 3
    Ceisiadau lle mae’r flaenoriaeth wedi ei leihau Angen tai heb gysylltiad Gwynedd
  • Band 4
    Dim angen tai gyda chysylltiad Gwynedd

Ymhob pob band bydd ceisiadau yn ymddangos yn y drefn yma:

  1. Ceisiadau gyda chysylltiad cymuned efo’r ardal lle mae’r eiddo’n cael ei osod, yn ôl dyddiad derbyn y cais.
  2. Ceisiadau heb gysylltiad cymuned efo’r ardal lle mae’r eiddo’n cael ei osod, yn ôl dyddiad derbyn y cais.

Gwelwch isod amgylchiadau fyddai yn cael eu hystyried yn angen tai brys, ac angen tai.

Anghenion tai
 Angen tai brys Angen tai
  •  Yn ddigartref oherwydd camdriniaeth neu gamdriniaeth debygol ag angen ail-gartrefu ar frys
  • Angen meddygol, lles neu anabledd brys
  • Gadael y Lluoedd Arfog
  • Wedi byw mewn llety â chymorth darparwr achrededig ac mae modd i’r ymgeisydd gynnal tenantiaeth annibynnol (barod i symud ymlaen)
  • Person ifanc yn gadael gofal yr Awdurdod Lleol
  • Achosion brys lle mae’r teulu angen mynediad i lety cymdeithasol i atal plentyn rhag cael ei gymryd i ofal / parhau mewn gofal
  • Tenantiaid cymdeithasol presennol yng Ngwynedd sydd naill ai yn tan-feddiannu neu sy’n meddiannu eiddo sydd wedi’i addasu nad ydynt ei angen
  • Colli cartref oherwydd trychineb
  • Rhai ymgeiswyr gyda dyletswydd digartref
  • Achos eithriadol arall o angen brys
  •  Ymgeiswyr sy'n ddigartref o fewn ystyr Deddf Tai (Cymru) 2014
  • Ymgeiswyr lle mae gan awdurdod tai lleol ddyletswydd iddynt o dan adrannau 66, 73, 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014
  • Ymgeiswyr sy'n byw mewn tai heb gyfleusterau glanweithiol neu dai gorlawn neu fel arall yn byw mewn tai gydag amodau anfoddhaol
  • Ymgeiswyr sydd angen symud ar sail feddygol neu les (cynnwys seiliau sy’n berthnasol i anabledd)
  • Fforddiadwyedd tai sector preifat
  • Tenantiaid tai cymdeithasol presennol yng Ngwynedd sy’n tan-feddiannu un neu ddwy ystafell wely ac yn dymuno trosglwyddo i eiddo llai
  • Pobl sydd angen symud i ardal benodol o’r sir lle byddai methiant i wneud hynny yn achosi caledi (iddynt hwy neu eraill)
  • Gweithwyr Amaethyddol wedi’u dadleoli
  • Achos eithriadol arall o angen

Dyma beth sy’n cael ei ystyried fel Cysylltiad Gwynedd:

  • Byw yng Ngwynedd am 5 mlynedd
  • Cyswllt teuluol yng Ngwynedd ers dros 10 mlynedd
  • Darparu cymorth neu dderbyn cymorth gan berson neu ddarpariaeth yng Ngwynedd
  • Gweithio yng Ngwynedd am y 5 mlynedd ddiwethaf
  • Wedi cael cynnig swydd yng Ngwynedd ond gydag anabledd ac nid oes modd derbyn y swydd oherwydd anhawster canfod llety hygyrch
  • Angen symud i Wynedd fel y gall aelod o’r teulu gydag anabledd fynychu ysgol neu gael cymorth arbenigol ond nid oes modd gwneud hynny oherwydd anhawster canfod llety hygyrch
  • Yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yng Ngwynedd
  • Yn gyn-aelod o'r Lluoedd Arfog, nad yw mewn cyflogaeth neu’n byw yng Ngwynedd ar hyn o bryd a wasanaethodd yng Ngwynedd tra ‘roedd yn y Lluoedd

Diffiniad Cysylltiad Cymuned:

  • Byw yn y gymuned ble lleolir yr eiddo i’w osod am gyfnod o 5 mlynedd

Ni fydd ceisiadau heb gysylltiad Gwynedd nag angen tai yn cael eu cofrestru.

Ceir gwahanol fathau o eiddo o amrywiol faint o fewn y sir. 

Gallwch ddewis y math o eiddo yr ydych ei angen, nifer ystafelloedd gwely a’r lleoliad. Gwnewch yn siwr eich bod yn dewis lleoliad y byddwch yn barod i fyw ynddo. Pe byddwch yn gwrthod cynnig eiddo o’r math ac mewn lleoliad o’ch dewis yna gall eich cais gael ei symud i fand is.

Dyma gewch eich ystyried amdano. Nodwch mai canllaw yn unig ydi hwn ac efallai na fydd eich dewis delfrydol o faint eiddo yn cael ei gynnig i chi ac y cewch gynnig eiddo yr ydym ni o’r farn sydd yn rhesymol ac addas ar eich cyfer.

Maint eiddo
Aelwyd yr ymgeisydd  Eiddo 1 ystafell welyEiddo 2 ystafell wely Eiddo 3 ystafell wely Eiddo 4 ystafell wely Eiddo 5 ystafell wely 
 Person sengl  X  X      
 Cwpl  X  X      
Teulu gyda 1 plentyn    X  X    
Teulu gyda 2 o blant    X  X    
Teulu gyda 3 o blant      X  X  
Teulu gyda 4 o blant      X  X  X
Teulu gyda 5 o blant      X  X  X

 

Mae’n bosibl i gais dderbyn llai o flaenoriaeth oherwydd rhesymau penodol. Dyma rai enghreifftiau:

  • Ymddygiad sy’n effeithio addasrwydd i fod yn denant (cynnwys ymddygiad gwrth-gymdeithasol, torri amodau tenantiaeth, dyledion rhent, darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ar y cais)
  • Adnoddau ariannol (pobl sydd gyda adnoddau ariannol i gwrdd a’i anghenion tai)
  • Gwrthod cynnig rhesymol llety

Bydd cais gyda blaenoriaeth wedi ei ostwng yn ymddangos yn band 3. Gellir symud yn ôl i’r band gwreiddiol pan fydd yr ymddygiad wedi gwella neu’r ddyled wedi ei ad-dalu (neu bod trefniant boddhaol i ad-dalu dyled wedi ei sefydlu). Dyddiad dychwelyd i’r band ac nid dyddiad derbyn y cais fydd yn cael ei ddefnyddio.

Ni fydd eich cais yn cael ei gofrestru oni bai ei fod wedi ei gwblhau’n gywir. Dyma rhai awgrymiadau:

  • Atebwch bob cwestiwn yn y ffurflen gais. Os nad yw cwestiwn yn berthnasol i’ch amgylchiadau nodwch “dim yn berthnasol (D/B)” fel eich ateb.
  • Darllenwch y canllawiau a ddarparwyd yn y ffurflen gais.
  • Os nad ydych yn siŵr pa ddogfennau sydd angen i chi atodi fel rhan o’r cais yna cysylltwch â ni: 01286 685100 neu opsiynautai@gwynedd.llyw.cymru. Anfonwch gopïau yn unig. Peidiwch â gyrru dogfennau gwreiddiol gan na allwn warantu y byddent yn cael eu dychwelyd yn ddiogel i chi.
  • Gwnewch yn siwr bod pob ymgeisydd yn llofnodi a dyddio’r ffurflen gais.
  • Cofiwch, pan fydd eich cais wedi ei gofrestru ni fydd angen i chi gysylltu â ni oni bai bod yna newid sylweddol yn eich amgylchiadau (gan gynnwys symud tŷ) neu fanylion cyswllt.
  • Bydd eich cais yn cael ei ystyried ar gyfer eiddo sydd yn cwrdd â’r dewisiadau ar eich cais (math eiddo, maint a lleoliad) yn ddibynnol ar unrhyw amodau a osodir gan y gymdeithas dai, er enghraifft maint teulu neu gyfleusterau arbennig yn yr eiddo.
  • Os byddwch yn cael cynnig tenantiaeth bydd y gymdeithas dai yn cysylltu gyda chi i drafod beth fydd yn digwydd nesaf. Ni fydd angen i chi gysylltu gyda Opsiynau Tai Gwynedd.
  • Cofiwch gofrestru eich cais mewn da bryd. Mae’n rhy hwyr pan welwch eiddo’n wag.

Os oes gennych unrhyw ymholiad am eich cais am eiddo cymdeithasol yna cysylltwch gyda Opsiynau Tai Gwynedd.

Os oes gennych ymholiad, cysylltwch â ni:

Dyma hefyd fanylion cyswllt ein partneriaid:

Lawrlwytho cynnwys y dudalen hon fel llawlyfr PDF