Cynllun Lesu Cymru - Gwynedd

Os ydych yn berchen ar eiddo yng Ngwynedd gallwch ei rentu gyda’n help ni drwy Gynllun Lesu Cymru.

 

Cofrestru eich diddordeb

Os ydych chi’n landlord gallwch fynegi eich diddordeb yn y cynllun drwy lenwi'r ffurflen ar-lein: 

Cynllun Lesu Cymru - mynegi diddordeb


Beth yw Cynllun Lesu Cymru?

Mae Cynllun Lesu Cymru yn gynllun lesu wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan awdurdodau lleol. Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i landlordiaid lesu eu heiddo i ni am daliadau rhent gwarantedig am gyfnod o 5 i 20 mlynedd.

Nod y cynllun yw galluogi mwy o bobl i rentu'n breifat yng Nghymru, a'i wneud yn opsiwn mwy fforddiadwy. Bydd y cynllun yn rhoi sicrwydd i denantiaid ac yn rhoi hyder i landlordiaid.

Amcanion y cynllun yw:

  • Gwella’r cyfle i bobl gael cartrefi yn y sector rhentu preifat
  • Sicrhau diogelwch llety tymor hwy
  • Cynnig llety fforddiadwy
  • Cynnig cymorth
  • Gwella safonau
  • Cyfrannu at leihau digartrefedd

Gweld mwy o wybodaeth am yr amcanion

 

Rydw i’n landlord – beth mae’n olygu i mi?

  • Lesoedd am gyfnodau o 5-20 mlynedd
  • Taliadau rhent gwarantedig am hyd y les ar gyfradd berthnasol y Lwfans Tai Lleol.
  • Pan fo angen, cynnig o hyd at £5000, fel grant, i wella'r eiddo er mwyn sicrhau ei fod o'r safon y cytunwyd arni, a/neu gynyddu sgôr yr EPC i lefel C. Mae cyllid grant ychwanegol o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer eiddo gwag.
  • Atgyweirio unrhyw ddifrod i'r eiddo a wneir gan denantiaid dan y cynllun, yn amodol ar draul resymol, a rhwymedigaeth y landlord am ddiffygion strwythurol. Byddai hynny'n cael ei gynnwys yn un o delerau'r les.
  • Gwarant o gymorth priodol i denantiaid, drwy gydol oes y les.

 

 Gwybodaeth ychwanegol

 

 Taflen wybodaeth

 

Manylion cyswllt

Os ydych chi’n landlord:

Os ydych chi mewn peryg o fynd yn ddigartref:

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru