Cynllun Prynu Cartref Gwynedd

Yda chi’n cael traffeth i fforddio prynu ty addas ar y farchnad agored?

Efallai gallwn helpu trwy fenthyg y gwahaniaeth rhwng pris tŷ a’r hyn gallwch ei gael fel morgais a blaendal.

 

Beth yw Prynu Cartref Gwynedd? 

Mae’r cynllun yma’n cynnig benthyciadau ecwiti er mwyn i ymgeiswyr cymwys fedru prynu tŷ oddi ar y farchnad agored. Ariennir y cynllun ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd, ac fe weinyddir y cynllun drwy ein partner cyflawni, Tai Teg. 

Mae’r swm y gallwch ei fenthyg yn gysylltiedig a’ch sefyllfa ariannol a’r uchafswm rydych yn gallu fenthyg drwy forgais. Os ydych yn cwrdd a meini prawf y cynllun bydd Tai Teg yn cadarnhau’r swm y gallwch ei fenthyg, os o gwbl, yn dilyn gwneud asesiad ariannol. Gallwn fenthyca gwerth rhwng 10% a 50% o werth eiddo a bydd y benthyciad yno’n cael ei osod fel arwystl ar yr eiddo.

Nid yw’r cynllun yma ar gyfer pobl sy’n gallu fforddio prynu cartref addas ar gyfer eu hanghenion, na’r rheini sy’n byw mewn cartrefi digonol ond yn dymuno symud i gartref drytach.

Pwrpas y dudalen yma yw rhoi amlinelliad o brif nodweddion y cynllun a bydd Tai Teg yn darparu’r amodau a rheolau llawn wrth i chi wneud cais am y cynllun. Cyn penderfynu prynu eiddo, dylech gymryd cyngor ariannol annibynnol i gael syniad clir o gostau a rhwymedigaethau sydd ynghlwm wrth berchen ar gartref.

I gofrestru, gwneud cais neu ofyn cwestiwn am y cynllun ewch i wefan Tai Teg

 

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y cynllun?

Cynllun yw hwn sydd wedi ei anelu tuag at bobl sy’n methu prynu tŷ oddi ar y farchnad agored heb gymorth. 

I fod yn gymwys mi fyddwch yn brynwyr tro cyntaf, neu’n byw mewn cartref sy’n anaddas i’ch anghenion (e.e. yn byw mewn amodau gorboblogi) a chwrdd a’r meini prawf canlynol: 

  • Rhaid bod dros 18 oed.
  • Rhaid bod ag incwm gross cartref cyfunol o rhwng £16,000 a £60,000.
  • Cysylltiad Lleol - bydd rhaid i chi fod â o leiaf 5 mlynedd o gysylltiad lleol i’r ardal rydych yn dewis byw ynddi e.e. wedi byw yn yr ardal am gyfnod o 5 mlynedd yn olynol
  • Os yn berchen cartref ar hyn o bryd bydd rhaid ichi allu dangos unai nad yw’ch cartref yn ddigonol neu na allwch bellach fforddio byw yn eich cartref presennol. e.e. methu â fforddio prynu eiddo sy'n addas ar gyfer maint eich teulu ar y farchnad agored neu drwy unrhyw fenter perchnogaeth arall.
  • Nid ydych yn gallu prynu cartref sy'n diwallu eich anghenion heb gymorth gan gynllun Prynu Cartref Gwynedd.
  • Rhaid ichi fedru cael morgais a blaendal ar gyfer yr eiddo rydych yn dymuno brynu


Sut mae’r benthyciad ecwiti yn gweithio?

Mae’r benthyciad ecwiti yn cael ei gyfrifo drwy gymharu yr hyn rydych yn gallu fforddio drwy morgais a blaendal yn erbyn prisiau eiddo yn y gymuned rydych yn dymuno byw ynddi. Gall y benthyciad yma fod hyd at gwerth 50% o bris eiddo. 

Er enghraifft, os yw prisiau tai 2 lofft mewn ardal yn £200k ond fod ymgeisydd cymwys ond yn gallu fforddio blaendal o £10,000 a morgais o £150,000, gallwn fenthyg £40,000 (neu 20% o werth eiddo yn yr enghraifft yma) ar ffurf benthyciad ecwiti. 

Pan fyddwch yn dod i werthu’r cartref rydych wedi ei brynu gyda cymorth y cynllun yma mae rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad. Nid oes unrhyw log na thaliadau credyd arall ar y benthyciad ac felly nid oes cyfradd ganrannol flynyddol (APR) ar gyfer y benthyciad.  Fodd bynnag, mae’r swm y bydd rhaid ichi ei ad-dalu yn gysylltiedig â gwerth eich cartref pan fyddwch yn ei werthu. Os yw gwerth eich cartref wedi lleihau yna mi fydd yr ad-daliad yn lleihau ond, os yw gwerth eich cartref yn cynyddu mi fydd yr ad-daliad yn cynyddu.

Er enghraifft, os wnaethom fenthyg 20% o werth yr eiddo yna mi fydd angen i chi ad-dalu gwerth 20% o werth yr eiddo pan yn gwerthu. Os yw gwerth eich eiddo yn cynyddu felly mi fydd yr ad-daliad y bydd rhaid i chi wneud hefyd yn cynyddu. Bydd prisiad annibynnol yn cael ei wneud o’r eiddo er mwyn sefydlu’r swm y bydd rhaid i chi dalu nol. Byddwn hefyd yn cadw’r hawl i gael y cyfle cyntaf i brynu’r eiddo neu enwebu rhywun i brynu’r eiddo ganddoch chi. 

 

Sut i gyflwyno cais?

Er mwyn gwneud cais ar gyfer y cynllun yma mi fyddwch angen cofrestru gyda Tai Teg a’ch derbyn ar y gofrestr.

Cofrestru ar-lein: Tai Teg

Wedi i chi gael eich derbyn i fod ar y gofrestr bydd angen i chi wneud cais ar gyfer cynllun Prynu Cartref Gwynedd ar wefan Tai Teg.  


Mwy o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun, ewch i wefan Tai Teg neu cysylltwch â Tim Tai Teg: