Cynllun Tŷ Gwynedd

Ydych chi yn chwilio am dŷ fforddiadwy i'w brynu neu ei rentu yng Ngwynedd? Efallai y gall cynllun Tŷ Gwynedd eich helpu chi.

 

 

Ar gyfer pwy mae ‘Tŷ Gwynedd’?

Mae Tŷ Gwynedd yn gynllun ar gyfer pobl sydd ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol, neu sy'n cael trafferth ffeindio tŷ addas sy’n fforddiadwy..

Gallwch weld os ydych yn gymwys ar gyfer cynllun Tŷ Gwynedd drwy fynd i wefan Tai Teg:

Tŷ Gwynedd - ydw i yn gymwys?

(Tai Teg ydi'r corff sydd yn gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar gyfer Cyngor Gwynedd).

 

Cofrestru diddordeb

Os ydych yn gymwys gallwch gofrestru eich diddordeb drwy ddilyn y linc isod i wefan Tai Teg 

Tŷ Gwynedd - cofrestru diddordeb

Drwy gofrestru byddwch yn cael gwybod pan fydd ein datblygiadau ‘Tŷ Gwynedd’ yn dod ar gael er mwyn i chi allu cyflwyno cais. Gallwch hefyd wneud cais am dai fforddiadwy eraill yn y sir.  

Ein gweledigaeth yw i ddatblygu tai o ansawdd sy’n fforddiadwy i bobl leol. Byddwn yn cyflawni hyn drwy lynu at yr egwyddorion dylunio canlynol:

Fforddiadwy – Byddwn yn cynnig tai i’w prynu a’u rhentu am bris sy’n fforddiadwy. Byddwn yn gwerthu ar sail ein model rhan ecwiti; er enghraifft byddwch yn ariannu canran o’r pryniant drwy gynilon a morgais a byddwn yn benthyg y canran sy’n weddill yn erbyn yr eiddo. Byddwn hefyd yn rhentu tai gan gynnig disgownt oddeutu 20% ar rhent misol.      

Addasadwy – Mae’r gallu i addasu’r tŷ yn un o brif rhinweddau Tŷ Gwynedd. Mae gofod pwrpasol tu mewn a thu allan fydd yn gallu cael i addasu i gwrdd ag anghenion gwahanol unigolion neu deuluoedd, a bydd yn darparu’r sylfaeni i addasu fel mae anghenion yr aelwyd yn newid dros amser.

Cynaliadwy – Bydd ein datblygiadau yn gynaliadwy yn eu dyluniad a gwneuthuriad ac yn ceisio uchafu defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy yn ogystal â’r gadwyn gyflenwi lleol.  

Ynni effeithiol – Byddwn yn anelu i ddefnyddio’r technegau a technoleg diweddaraf ar gyfer lleihau ôl troed carbon a hwyluso defnydd effeithiol o ynni i breswylwyr.

Iach – Byddwn yn creu amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd a lles cymunedau a’r cynefin 

Y cam cyntaf yw cofrestru eich diddordeb drwy fynd i wefan Tai Teg: 

Cofrestru diddordeb mewn Tŷ Gwynedd

Er ei bod yn bosib cofrestru eich diddordeb rwan, nid yw'n bosib cyflwyno cais am un o dai Tŷ Gwynedd ar hyn o bryd. Os ydych yn cofrestru rŵan byddwn yn cysylltu â chi yn ystod y misoedd nesaf pan fydd datblygiadau cyntaf ‘Tŷ Gwynedd’ yn dod ar gael, fel bod modd i chi gyflwyno cais.  

Pam cofrestru rŵan?

  • Os ydych yn cofrestru eich diddordeb rŵan byddwch yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Tai Fforddiadwy. 
  • Byddwch yn gallu gwneud cais am Dŷ Gwynedd pan fyddant ar gael.
  • Gallwch wneud ceisiadau am dai fforddiadwy eraill ar draws y Sir, a'r Cynllun Cymorth i Brynu.
  • Byddwch yn ein helpu i gynllunio ein datblygiadau yn y dyfodol gan y bydd yn dangos i ni yn lle mae'r galw am dai Tŷ Gwynedd. 

 

Dros y misoedd nesaf byddwn yn cyhoeddi ein safleoedd cyntaf felly cadwch olwg allan am ddatblygiadau yn eich ardal chi drwy ddilyn ni ar Facebook a Twitter