Opsiynau Tai Cymdeithasol Gwynedd
Ydych chi yn edrych am gartref am bris fforddiadwy yng Ngwynedd? Mae Tai Cymdeithasol Gwynedd yn darparu yr union hyn – cartref am bris teg i unigolion yng Ngwynedd.
Yng Ngwynedd, mae tai cymdeithasol ar gael gan:
Gwneud cais am dŷ cymdeithasol
Er mwyn cael eich ystyried am dŷ cymdeithasol mae’n rhaid i’ch enw fod ar Gofrestr Dai Gyffredin Gwynedd.
Gall unrhyw un gyda chysylltiad â Gwynedd wneud cais i’ch enw fod ar Gofrestr Tai Gyffredin Gwynedd. Gall rhai amgylchiadau hefyd godi lle y gallwch wneud cais os nad oes gennych gysylltiad gyda Gwynedd.
Gall eich cysylltiad Gwynedd fod yn unrhyw un o’r canlynol
- Wedi byw yng Ngwynedd am 5 mlynedd
- Hefo aelod o deulu agos wedi byw yng Ngwynedd am o leiaf 10 mlynedd
- Yn darparu neu derbyn cymorth yng Ngwynedd
- Wedi bod mewn cyflogaeth yng Ngwynedd yn y 5 mlynedd diwethaf
- Wedi cael cynnig swydd yng Ngwynedd ond methu oherwydd anabledd
- Yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yng Ngwynedd
Gweld mwy o wybodaeth (polisi gosod tai)
Ar hyn o bryd, y ffordd gyflymaf i gyflwyno eich cais yw drwy lawrlwytho’r ffurflen gais a’i yrru atom yn y post neu ei sganio a’i e-bostio atom (mae'r manylion cyswllt ar waelod y ffurflen gais).
Lawrlwytho ffurflen gais
Cyn cwblhau’r ffurflen, darllenwch y llawlyfr gwybodaeth i ymgeiswyr.
Mae'n hynod bwysig eich bod yn cwblhau'r ffurflen yn gyflawn ac yn darparu'r wybodaeth atodol wrth gyflwyno'r cais. Os nad yw'r ffurflen gais yn gyflawn a bod gwybodaeth hanfodol ar goll, yna bydd y ffurflen yn cael ei ddychwelyd i chi ei gwblhau. Bydd hyn yn oedi’r amser a gymerir i ni brosesu ac asesu eich cais.
Bydd eich cais yn cael ei brosesu a’i asesu ac mae ceisiadau sy’n gymwys i fynd ar y gofrestr tai yn cael eu dynodi mewn un o’r 4 ‘band’ isod:
Band
Band | Graddfa o angen tai |
1 |
A. Ymgeiswyr mewn Angen Tai Brys â chysylltiad Gwynedd
B. Ymgeiswyr mewn Angen Tai Brys (heb gysylltiad Gwynedd)
|
2 |
Ymgeiswyr mewn Angen Tai â chysylltiad Gwynedd |
3 |
Ymgeiswyr mewn Angen Tai heb gysylltiad Gwynedd ac Ymgeiswyr gyda blaenoriaeth is |
4 |
Ymgeiswyr heb angen tai gyda cysylltiad Gwynedd |
Os na fydd eich gais yn cael ei roi ar y gofrestr tai wedi ei asesu, byddwn yn eich hysbysu a nodi’r rhesymau pam.
Os ydych angen addasu eich cais, bydd angen i chi gysylltu â ni:
Byddwch ond angen gwneud hyn os oes rhywbeth yn newid am eich sefyllfa. Enghreifftiau o bryd dylewch ein ffonio yw i newid eich cyfeiriad presennol neud i adio aelod newydd i’ch cais.
Cwestiynau a ofynir yn aml
Byddwn yn gadael i chi wybod dros e-bost neu ffôn ar ôl i ni asesu eich cais.
Mae yna dai cymdeithasol ar draws Gwynedd – edrychwch ar adran 15, ‘ardaloedd’ ar y ffurflen gais.
Does dim modd rhoi linell amser ar hyn gan ei fod yn dibynnu ar pa bryd mae yna dŷ yn dod yn wag, a faint o bobl sydd eisiau/gydag angen tŷ yn yr ardaloedd hyn.
Y mwyaf o ardaloedd sydd lawr ar eich cais, y mwyaf o dai byddwch yn cael eich cysidro amdanynt. Does dim cyfyngiad i’r nifer o ardaloedd y gallwch eu dewis.
Nag oes. Bydd eich cais dal yn actif ar y gofrestr.
Os ydi’r tŷ hwn yn un o’r ardaloedd yr ydych wedi eu dewis ar eich cais – does dim angen rhoi eich enw ymlaen. Byddwch yn cael eich cysidro yn awtomatig am y tŷ ac am bob tŷ arall sydd yn dod fyny yn eich ardaloedd.
Mae eich safle ar y rhestr yn cael ei benderfynu ar sail cyfuniad o’ch angen tai a’ch cysylltiad gyda Gwynedd. Gwelwch “Rwyf wedi cyflwyno cais – be sy’n digwydd nesaf” uchod.
Unwaith rydych wedi eich rhoi mewn band,ni fydd hynny yn newid oni bai bod yna newid sylweddol yn eich amgylchiadau.
Mae Tai Teg, fel ni, yn cynnig unedau fforddiadwy i unigolion a theuluoedd sydd eu hangen. Mae ganddynt feini prawf gwahanol i ni – mae mwy o wybodaeth am hyn ar eu gwefan.
Gwefan Tai Teg