Tai gwag

Gall tai sy’n wag achosi niwsans a difrod i dai cyfagos. Maent hefyd yn wastraff oherwydd gallent gael eu defnyddio fel cartrefi.

Gallwn roi cyngor i berchnogion tai gwag i’w helpu i wneud y tŷ’n addas i’w ddefnyddio eto.

Os yw’r perchennog yn gwrthod dod â’r tŷ’n ôl i ddefnydd neu’n peidio â thrwsio’r tŷ, gall y Cyngor: 

  • roi rhybudd i’r perchennog wneud y gwaith, a gwneud y gwaith ei hun os nad yw’r perchennog yn gwneud hynny

  • gorfodi gwerthu’r tŷ i ad-dalu rhai dyledion i’r Cyngor. 

Cynlluniau tai gwag

Grantiau ar gyfer helpu prynwyr tro cyntaf i adnewyddu tai gweigion/ail gartrefi, i safon byw derbyniol. Rhaid i’r eiddo fod wedi bod yn wag neu wedi ei gofrestru yn flaenorol fel ail gartref gan Adran Treth Cyngor Gwynedd am o leiaf 6 mis neu fwy, a bydd angen i’r ymgeiswyr fod â chysylltiad gyda’r ardal leol.

Sicrhewch eich bod yn cwrdd â’r holl feini prawf canlynol cyn i chwi wneud cais am Grant Prynwyr Tro Cyntaf.

Ymgeisydd(wyr)

  • Rhaid i’r un neu ddau o’r ymgeisydd gwrdd ag un o’r canlynol

    • Wedi byw am o leiaf y 5 mlynedd blaenorol yn Ardal Cyngor Cymuned (neu ardal gyfochrog) yr eiddo a brynwyd o'r newydd.
    • Cyn hynny bu'n byw am gyfnod o 10 mlynedd barhaus yn ardal Cyngor Cymuned neu ardal gyfochrog yr eiddo a brynwyd o'r newydd
  • Byw yn yr ardal neu ardal gyfochrog am 365 diwrnod y flwyddyn am y cyfnod penodol (5 neu 10 mlynedd) a bod Treth Cyngor wedi ei dalu ar yr eiddo preswyl am y cyfnod hwnnw (ar y sail bod yr eiddo wedi cael ei breswylio yn barhaol)

  • Rhaid i bob ymgeisydd fod yn brynwyr tro cyntaf
  • Rhaid i incwm aelwydydd beidio â bod yn fwy na £60,000

  • Rhaid i flaendal morgais beidio â bod yn fwy na 35% o bris prynu'r eiddo

  • Rhaid dilyn y Canllaw Cost Derbyniol sydd i weld ar y dudalen nesaf – h.y. yr uchafswm pris prynu’r eiddo a ganiateir

  • Rhaid i’r eiddo fod wedi ei gofrestru yn wag neu yn ail gartref am gyfnod o 6 MIS cyn i chi brynu’r eiddo

Canllaw Cost Derbyniol

Canllaw cost derbyniol

 Maint Teulu Band 1Band 2  Band 3Band 4  Band 5
 Teulu + 5 blant

 247,480

 264,730

 281,980

 265,200

 304,980

 Teulu + 4 o blant

 234,600

 249,205

 263,810

 283,245

 302,795

 Teulu + 2 neu 3 o blant

 200,790

 212,750

 226,090

 242,995

 259,900

 Teulu + 1 plentyn

 188,025

 200,445

 211,715

 227,470

 243,340

 Cwpl

 179,055

 190,325

 202,745

 218,500

 234,370

 Person sengl

 161,000

 169,855

 180,780

 195,500

 210,105

Band 2

  • Bala, Bethesda, Betws Garmon, Bontnewydd, Brithdir & Llanfachreth, Corris, Dolbenmaen, Dolgellau, Dyffryn Ardudwy, Ffestiniog, Ganllwyd, Llanaelhaearn, Llanberis, Llanddeiniolen, Llandderfel, Llanegryn, Llanelltyd, Llanfair (Meirionydd), Llanfihangel-y-Pennant, Llangelynnin, Llangywer, Llanllechid, Llanllyfni, Llanuwchllyn, Mawddwy, Pennal, Talsarnau, Trawsfynydd, Tywyn, Waunfawr.

Band 3

  • Abergwyngregyn, Aberdaron, Abermaw, Arthog, Bangor, Beddgelert, Botwnnog, Bryn-Crug, Buan, Caernarfon, Clynnog, Cricieth, Harlech, Llanbedr, Llanbedrog, Llandwrog, Llandygai, Llanengan, Llanfrothen, Llannor (Dwyfor), Llanrug, Llanwnda, Llanycil, Llanystumdwy, Maentwrog, Nefyn, Penrhyndeudraeth, Pentir (Ysbyty Gwynedd), Pistyll, Porthmadog, Pwllheli, Tudweiliog, Y Felinheli.

Band 4

  • Aberdyfi 

Gweld map wardiau etholiadol

Mae grantiau o hyd at £25,000 ar gael i berchnogion tai neu ddarpar berchnogion tai i adnewyddu tai gwag i'w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella eu heffeithlonrwydd ynni. I fod yn gymwys i dderbyn y grant, mae’n rhaid i'r eiddo fod wedi'i gofrestru’n wag am o leiaf 12 mis ar adeg cyflwyno’r cais, ac mae’n rhaid i'r perchennog fodloni’r meini prawf cysylltiad lleol yng Ngwynedd.

Mwy o wybodaeth am y cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol 

Cynllun sy’n cynnig benthyciadau tymor byr di-log i ddatblygwyr i ail-gyflwyno defnydd preswyl i dai gwag a rhai segur, a/neu ar gyfer trosi eiddo presennol yn dai. Bydd cynlluniau yn cael eu hasesu mewn perthynas â’r galw a’r effaith lleol.

Statws a grŵp targed

  • Mae’r math hwn o gymorth yn un DEWISOL

Cymhwysedd

  • Mae cymorth ar ffurf benthyciadau ar gael i berchnogion i ailgyflwyno eiddo gwag i’w defnyddio eto a’i gwerthu neu eu rhentu ond ddim i berchennog-ddeiliaid.
  • Ni ddylai ymgeiswyr am fenthyciadau fod â chredyd anffafriol CCJ/methdaliad
  • Gellir cynnig benthyciadau i:
    • Unigolion
    • Elusennau
    • Cwmnïau/busnesau
  • Yr holl waith a ystyrir sy’n angenrheidiol i ail-gyflwyno’r eiddo i’w ddefnyddio fel eiddo preswyl gan gynnwys costau trosi ble mae eiddo wedi eu wneud yn nifer o unedau ar wahân.

Amodau

  • Mewn achos benthyciadau i ddychwelyd eiddo nôl i ddefnydd drwy werthu, mae cyfnod uchafswm o ddwy flynedd i ad-dalu.
  • Mewn achos benthyciadau i ddychwelyd eiddo gwag i’w rentu, mae cyfnod ad-dalu’r benthyciad yn 5 blynedd.
  • Wedi cwblhau’r gwaith rhaid i’r eiddo fod ar gael i’w rentu neu ei werthu.

Ceisiadau

  • Eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis
  • Os nad yw’r benthyciad yn cynnwys costau llawn y gwaith, tystiolaeth o gyllid digonol i sicrhau fod y cynllun yn hyfyw yn ariannol o’r dechrau.
  • Dylai ceisiadau gael eu cefnogi gan brisiant RICS annibynnol a dylai’r Cyngor ddarparu chwiliad tir lleol.
  • Uchafswm benthyciad o £35,000 yr uned o lety hyd at uchafswm o £150,000 yr ymgeisydd.
  • Bydd benthyciadau yn cael eu sicrhau fel pridiant 1af neu 2ail yn erbyn teitl y Gofrestrfa Dir.
  • Uchafswm 80% o fenthyciad i’r gwerth - ar sail gwerth a chyflwr presennol yr eiddo a gynigiwyd fel sicrwydd.
  • Bydd yr holl fenthyciadau yn cael eu cynnig yn ddi-log

Beth yw'r cam nesaf?

Sut i Gysylltu?

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Tim Tai Gwag:

  • 01286 682621/01286 679290
  • taigwag@gwynedd.llyw.cymru
  • Adran Tai ac Eiddo, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

Benthyciad tymor byr di-log rhwng £ 1,000 a £ 25,000 i Berchnogion Deiliaid, Landlordiaid, Datblygwyr ac Elusennau wneud eu cartref yn ddiogel, yn gynnes ac yn ddiogel. 


Beth sydd ar gael?

  • Benthyciad dewisol hyd at £25,000 i gynorthwyo perchnogion i wella safon ei heiddo.
  • Bydd cynigion benthyciadau rhwng lleiafswm o £1,000 hyd ar uchafswm o £25,000 fesul uned o lety, efo uchafswm o £150,000 i bob ymgeisydd ar unrhyw adeg.
  • Mae uchafswm cymhareb benthyciad o 80% - yn seiliedig ar werth cyfredol y farchnad a chyflwr yr eiddo a gynigir fel gwarant. Mae'r benthyciad ar gael os nad yw'r morgais ac unrhyw fenthyciad (au) gwarantedig gyda'i gilydd yn fwy na 80% o werth cyfredol y cartref Ee. os yw'r eiddo werth £ 100,000 a bod gennych forgais 75%, dim ond benthyciad o £5,000 (hy ecwiti 5% sy'n weddill) y gallwch wneud cais am adnewyddiad.
  • Bydd pob benthyciad yn cael cynnig di-log, ond bydd yn rhaid talu tâl gweinyddol o £500; gellir ychwanegu hyn at y benthyciad neu ei dalu ymlaen llaw.
  • Gweinyddir pob benthyciad gan Gyngor Gwynedd a Street UK.

Cymhwysedd

  • Mae'r cymorth hwn yn DDEWISOL
  • Mae cymorth Benthyciad Gwella Cartref ar gael i:
    • Perchen-feddianwyr - prif breswylfa yn unig
    • Landlordiaid (unigolion a chwmnïau)
    • Datblygwyr (partneriaethau a chwmnïau)
    • Elusennau / Sefydliadau Trydydd Sector

Cais

  • Ffurflen Gais Cynllun Benthyciadau Gwella Cartref Llywodraeth Cymru
  • Rhaid i geisiadau gael eu cefnogi gan bris a gymeradwywyd, a phrawf teitl.
  • Os nad yw’r benthyciad yn cynnwys costau llawn y gwaith, bydd angen tystiolaeth fod gweddill yr arian ar gael ar gyfer cwblhau’r prosiect o’r cychwyn.
  • Bydd gallu'r ymgeisydd i fforddio'r benthyciad yn cael ei bennu gan Gyngor Gwynedd a Street UK ar y cyd.


Amodau

  • Rhaid i berchen-feddianwyr ad-dalu'r benthyciad o fewn uchafswm cyfnod benthyca o 7 mlynedd
  • Mae’n rhaid i Landlordiaid, Datblygwr ac Elusennau ad-dalu’r benthyciad o fewn 5 mlynedd.
  • Bydd pob benthyciad yn cael ei sicrhau fel arwystl gyntaf neu ail yn erbyn Teitl y Gofrestrfa Tir.

Sut i gysylltu?

  •  01341 434351/ 01286 682621/ 01286 679290
  • taigwag@gwynedd.llyw.cymru
  • Tai Sector Preifat, Adran Tai ac Eiddo, Cyngor Gwynedd, Cae Penarlag, Dolgellau, Gwynedd LL40 2YB 

Gall y Cyngor helpu i ostwng neu gael gwared ar y TAW ar yr holl ddeunyddiau a ddefnyddir wrth adnewyddu tŷ gwag. Os yw eiddo wedi bod yn wag rhwng 2 a 10 mlynedd, daw’r TAW ar y deunyddiau i lawr i 5%. Os yw eiddo wedi bod yn wag am dros 10 mlynedd, gellir gostwng y TAW i 0%.

Mae dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn gallu bod yn broses drud, yn enwedig pan fod angen adnewyddu. I helpu gyda’r costau yma, mae’r Llywodraeth wedi gwneud newidiadau yn y canran o TAW mae angen talu ar gostau adnewyddu adeiladau gwag dros dymor hir.

Mae’n bwysig bod gennych ddealltwriaeth o’r cyfraddau TAW gwahanol os ydych yn bwriadu adnewyddu eich eiddo, ar adegau nid yw adeiladwyr yn ymwybodol o’r newidiadau yma. Os ydych yn talu’r gyfradd safonol o 20% TAW, er eich bod yn gymwys am ddisgownt, mi fedr fod yn anodd iawn derbyn ad-daliad am yr hyn sydd wedi ei dalu.

Mae’r canllaw hwn yn darparu bras olwg ar rhai sefyllfaoedd ble mae’n bosib eich bod yn cymwys am ostyngiad TAW pan yn adnewyddu tŷ. Plîs nodwch, nid yw’r canllaw yma yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol dros gyfraddau TAW. Ddylai unrhyw geisiadau am ostyngiad/eithriad TAW cael ei wirio gan HMRC, a/neu gael ei chadarnhau drwy gyfeirio at HMRC 708 a/neu HMRC Notice 431C.

 

Gostyngiad TAW: adnewyddu tai (gwag am o leiafswm o ddwy flynedd)

  • Gall gwaith adnewyddu i eiddo preswyl sydd wedi bod yn wag am leiafswm o ddwy flynedd bod yn cymwys am gyfradd TAW wedi’i ostwng i 5%. Mae hyn yn ostyngiad o 15% o’r 20% sydd fel arfer yn daladwy.
  • Dylai contractwyr sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r rheolau treth cyn iddynt brynu nwyddau/gwasanaethau ar gyfer y gwaith. Dim ond rhai nwyddau/gwasanaethau sydd yn gymwys am ostyngiad TAW (HMRC Rhybudd 708, Rhan 8.4).
  • Am ragor wybodaeth cyfeiriwch at HMRC Rhybudd 708

 

Eithriad TAW: adnewyddu tai (gwag am leiafswm o deg mlynedd)

  • Gall gwaith adnewyddu i eiddo preswyl sydd wedi bod yn wag am leiafswm o ddeg mlynedd fod yn gymwys am gyfradd TAW wedi’i ostwng i 0%. 
  • Mae' eich hawl i’r gostyngiad yn rhannol amodol ar ddefnyddio'r eiddo a adnewyddwyd at ddibenion preswyl ar gyfer eich hun a'ch teulu. Nid yw'n bosibl byw yn yr eiddo cyn dechrau’r gwaith adnewyddu.
  • Am ragor o wybodaeth cyfeiriwch at HMRC Rhybudd TAW 431C a HMRC Rhybudd 708.

Eithriad TAW: throsi eiddo ar gyfer bwrpas preswyl

  • Gall gwaith trosi eiddo dibreswyl yn eiddo preswyl fod yn gymwys am TAW ar raddfa o 0%.
  • Diffinnir ‘trosi eiddo’ fel trosi eiddo dibreswyl sydd erioed wedi cael ei ddefnyddio i bwrpas preswyl yn annedd preswyl.
  • Mae eich hawl i’r gostyngiad yn amodol ar ddefnyddio’r eiddo ar gyfer pwrpas preswyl un ai i chi eich hun neu eich teulu.
  • Am ragor o wybodaeth cyfeiriwch at HMRC Rhybudd TAW 431C a HMRC Rhybudd 708.

Dwi’n meddwl fy mod yn gymwys, beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys am ostyngiad TAW ar unrhyw waith fyddwch yn ymgymryd i ddod a thŷ gwag yn ôl i ddefnydd preswyl yna cysylltwch â HMRC:

Unwaith mae HMRC wedi cadarnhau eich bod yn cymwys, cysylltwch â Tîm Tai Gwag Cyngor Gwynedd i ofyn am dystiolaeth fod yr eiddo wedi bod yn wag am y cyfnod gofynnol:

 


Cysylltwch â’r Tîm Tai Gwag