Amodau tai preifat ar rent

Y landlord sy’n gyfrifol am sicrhau bod eiddo ar rent yn addas i fyw ynddo.

Os ydych yn poeni am yr amodau yn eich llety, dylech gysylltu â’r landlord neu ei asiant yn gyntaf. Os nad yw’r landlord yn trwsio / gwella pethau o fewn amser rhesymol, cysylltwch â Thîm Tai Sector Breifat Cyngor Gwynedd.

Byddwn yn ymchwilio i gwynion ynghylch:

  • strwythur yr adeilad
  • bath, sinciau a chyfleusterau ymolchi eraill
  • gosodiadau gwresogi a dŵr poeth
  • gosodiadau trydan a nwy
  • materion iechyd a diogelwch
  • tamprwydd a llwydni
  • gwresogi a chadw gwres aneffeithlon
  • diogelwch tân a ffordd o ddianc.

Gallwn hefyd edrych ar arferion rheoli’r landlord.

 

Diogelwch nwyddau mewn llety rent

Mae rheolau yn bodoli o ran diogelwch nwyddau mewn llety sy'n cael ei rentu fel gweithgaredd busnes. Mae hyn yn berthnasol i dai, fflatiau, fflatiau un ystafell, llety gwyliau, carafannau a chychod.

Mae’r gyfraith yn berthnasol i asiantwyr gosod, arwerthwyr tai a landlordiaid preifat.

  • Diogelwch nwyddau mewn llety ar rent

 

Cysylltwch â ni


Asesiadau tai (HHSRS)

Gall y Cyngor asesu tai gan ddefnyddio’r System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai. Mae’r HHSRS yn cynnwys peryglon iechyd a diogelwch fel tamprwydd, llwydni, tymheredd, llygredd (plwm, asbestos, ymbelydredd ac ati), prinder lle neu olau, gormod o sŵn, materion diogelwch bwyd a hylendid personol, peryglon syrthio a thrydan a phroblemau strwythur.

Mae peryglon categori 2 yn cael sgôr o 1000 neu lai dan yr HHSRS; caiff peryglon categori 1 dros 1000. Mae gan y Cyngor sawl opsiwn gorfodaeth. Gellir rhoi rhybuddion gwella, gwahardd neu ymwybyddiaeth o berygl i eiddo yn y ddau gategori; gellir rhoi gorchmynion dymchwel, clirio, trwsio ar frys neu wahardd ar fryd i eiddo categori 1.