Benthyciadau Tai

Rheoli Prosiect

Cymorth prosiectau dewisol i berchnogion eiddo gwag sy'n derbyn naill ai grant neu fenthyciad gan y Cyngor. 

Rhagor o wybodaeth

 

Cynllun Benthyciadau Gwella Cartref Llywodraeth Cymru

Benthyciadau di-log o £1,000 i £25,000 i gynorthwyo perchnogion eiddo sydd angen gwaith adnewyddu. Ar gael i berchnogion preswyl, landlordiaid, datblygwyr ac elusennau i gynorthwyo gyda gwneud cartref yn gynnes a diogel. Mae’r benthyciadau yn cynnwys ffi weinyddol o £500 y gellir ei ychwanegu at y benthyciad. Tymor benthyciad am Perchennog Preswyl yw 7 mlynedd, 5 mlynedd i Landlordiaid / Cwmnïau. Gall benthyciadau Perchnogion Preswyl cael ei ymestyn i 10 mlynedd.

 

Benthyciad gwaith hanfodol

Grant gwirfoddol o hyd at £10,000 i ymgymryd ag atgyweiriadau hanfodol . Bydd rhaid i ymgeiswyr fod ar incwm isel (mae prawf modd yn berthnasol)  neu yn derbyn budd-daliadau penodol, a bydd rhaid i’r gwaith fod yn Berygl Categori 1 (sef perygl sydd yn debygol o achosi niwed difrifol i’r preswylwyr). Bydd rhaid ad-dalu y benthyciad yn llawn heb eithriad pan waredir yr eiddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod