Telerau ac amodau gwasanaeth di-wifr Ymwelwyr
Polisi defnydd derbyniol di-wifr
Rheolau cyfredol o ddefnydd cywir o fynediad i wasanaeth di-wifr cyhoeddus i ymwelwyr.
Y Gwasanaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn darparu mannau cyswllt di-wifr am ddim ar gyfer aelodau o’r cyhoedd. Mae’r gwasanaeth yn agored a heb ei ddiogelu, gyda rhai cyfyngiadau; rydych yn ei ddefnyddio yn ymwybodol o’r risgiau yma.
Nid oes yna gyfleusterau argraffu ar gael i ddefnyddwyr y gwasanaeth di-wifr.
Mae rheolau iechyd a diogelwch yn golygu na allwch gysylltu eich cyfarpar i blygiau trydan Cyngor Gwynedd.
Gofalaeth rhieni a diogelwch plant ar y rhyngrwyd
Dim ond drwy oruchwyliaeth rhiant neu warchodwr y bydd plant a phobl ifanc o dan 18 oed yn cael defnyddio’r gwasanaeth.
Cyfrifoldeb y rhiant neu warchodwr yw goruchwylio a rhwystro mynediad at gynnwys amhriodol y gall eu plant fod yn eu defnyddio tra wedi cysylltu i “Wasanaeth Di-Wifr Ymwelwyr”. Ni all Gyngor Gwynedd fod yn gyfrifol am blant yn cael mynediad i gynnwys amhriodol drwy gyswllt di-wifr drwy eu cyfarpar personol.
Mynediad i’r gwasanaeth
I ddechrau defnyddio’r gwasanaeth, cysylltwch i’r SSID o’r enw “Ymwelwyr Gwynedd”, "Ymwelwyr Ysgolion" neu "Byw'n Iach". Mae’r gwasanaeth yma’n cael ei oruchwylio a mynediad wedi ei hidlo. Fe all Gyngor Gwynedd flocio eich mynediad at y gwasanaeth ar unrhyw adeg, ac am unrhyw reswm, ac nid yn unig drwy dramwyo rheolau’r polisi yma. Gall hyn fod drwy aflonyddu defnyddwyr eraill neu rwydweithiau eraill, neu ddefnydd sydd yn dor cyfraith e.e. lawr lwytho defnydd sy’n torri rheolau hawlfraint.
Ni all staff Cyngor Gwynedd roi cyngor i chwi ar sut i ddefnyddio eich cyfarpar i gysylltu i’r gwasanaeth yma. Eich cyfrifoldeb chi yw ffurfweddu eich cyfarpar ac mae gosodiadau fel hyn yn unigryw i bob llwyfan, fe fyddwch angen cyfeirio at ddogfennaeth y gwneuthurwr ar gyfer cyfarwyddiadau i gysylltu. Does dim gwarant y byddwch yn gwneud cyswllt llwyddiannus, na chael mynediad i’r gwasanaeth rhyngrwyd yr ydych yn ei ddymuno.
Cyflwynir y darpariaeth yma mewn partneriaeth â BT Wi-Fi.
Rhybudd diogelwch y rhyngrwyd
Nid yw’r gwasanaeth yma yn gwbl ddiogel oherwydd ei natur agored, a drwy ddefnyddio’r gwasanaeth rydych yn cydnabod ac yn derbyn yr holl risgiau sydd yng nghlwm a defnyddio’r rhyngrwyd ar rwydwaith sydd heb ei ddiogelu. Rydych hefyd yn cytuno i’r termau sy’n cael ei gosod yn y polisi hwn. Ni all Cyngor Gwynedd warantu preifatrwydd na diogelwch eich data a chyfathrebu wrth ddefnyddio’r gwasanaeth, ac ni all dderbyn cyfrifoldeb am ddifrod gall ddod drwy osodiadau diogelwch anghywir, anghyflawn neu annigonol neu absenoldeb amddiffyniad firws diweddaraf.
Cyfrifoldeb yr unigolyn yw gosodiadau eu cyfarpar ar gyfer diogelwch, wal dan ac amddiffyn gwrthfirws i reoli cysylltiadau o gyfarpar di-wifr eraill neu’r rhyngrwyd ei hun, heb y rhain gall:
- Gwybodaeth sydd yn cael ei yrru o’ch cyfarpar cael ei ddwyn gan rywun arall sydd â theclyn diwifr a’r meddalwedd priodol;
- Mae’n bosib i raglenni maleisus fel firws, worms a Trojans gael eu lawr lwytho all dorri eich cyfrifiadur neu wybodaeth;
- Gall eich cyfrifiadur fod yn darged i drydydd parti anawdurdodedig.
Ni all staff Cyngor Gwynedd eich cynghori ar sut y dylech amddiffyn eich cyfrifiadur na pha osodiadau diogelwch sydd ei angen ar eich cyfarpar personol.
Gwasanaethau bancio ar-lein, neu wasanaethau ariannol eraill a gwybodaeth bersonol a chyfrinachol
Nid yw’r gwasanaeth yma’n gwbl ddiogel ac ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer traddodion ariannol neu ddefnydd o wybodaeth bersonol neu gyfrinachol.
Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am gamddefnydd gwybodaeth bersonol sy’n cael ei fewnbynnu ar wefannau.
Rhybudd diogelwch ffisegol i gyfarpar
Y chi sydd yn gwbl gyfrifol am ddiogelwch eich cyfarpar, papurau ac eiddo personol.
Ni ddylech adael eich gliniadur, PDA nac unrhyw gyfarpar arall heb ei oruchwylio.
Ni all Cyngor Gwynedd fod yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod i gyfarpar personol.