1
      

Newid hinsawdd

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Rydym yn gweld bod gennym rôl bwysig i'w chwarae yn y gwaith o leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ymhellach, a rhoi'r arweiniad i drigolion, busnesau a sefydliadau eraill i gymryd camau i leihau eu hôl troed carbon.

Cafodd argyfwng hinsawdd ei ddatgan gennym ym mis Chwefror 2019, ac rydym wedi ymrwymo i fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030. 

Ar y tudalennau yma gallwch wedl gwybodaeth am y camau rydym wedi eu cymryd yn barod, a gwybodaeth ddefnyddiol am ffyrdd y gallwch chi helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd: 

Beth rydym ni yn ei wneud am newid hinsawdd?

Beth allwch chi ei wneud i helpu?