Gweinyddwr: CYNGOR GWYNEDD
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £1,800,000
Crynodeb o’r prosiect: Pwrpas y prosiect yw darparu cymorth, gwybodaeth a chefnogaeth ariannol sydd ei angen ar fusnesau Gwynedd i ddechrau, datblygu, a ffynnu. Mae pum ffrwd gwaith fydd yn gweithio fel pecyn i gynnig y cymorth mwyaf priodol i fusnesau’r Sir, sef:
- Gweithredu strategaeth ymgysylltu busnes Cyngor Gwynedd,
- Prosiect Catalyddion Cymunedol,
- Prosiect Ailwefru,
- Prosiect Platfform Digidol, a
- Chronfa Datblygu Busnes
Cronfa Datblygu Busnes
Mae’r gronfa yn cynnwys dau fath gwahanol o gymorth ar gael i fusnesau - Cronfeydd Datblygu Busnes (Sbarduno a Trawsnewid) a Grantiau Gwella Eiddo. Mae cyfanswm o £1.7miliwn ar gael i gefnogi busnesau, sy’n gyfuniad o arian SPF ynghyd â chyfraniad o arian wrth gefn gan y Cyngor, a chyfraniad gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Gronfa bellach wedi’i hoedi - roedd modd ymgeisio am grantiau bach o dan £25k a grantiau rhwng £25k a £250k ar gyfer pob math o grant. Bu i’r Gronfa agor i geisiadau gan fusnesau ar draws Gwynedd am grant i ddatblygu eu busnes ym mis Awst 2023, a derbyniwyd ceisiadau gyda chyfanswm gwerth dros £10.7 miliwn.
Cronfeydd Datblygu Busnes (llyw.cymru)