Grant Gwella Eiddo Canol Trefi

Mae’r gronfa yma bellach wedi ymrwymo yn llawn.

Rydym yn falch o allu adrodd fod pob cais bellach wedi ei asesu a’n bod yn y camau olaf o benderfynu pa gynlluniau dylid eu cefnogi. Mae cyfanswm y gofyn am gymorth dros £9 miliwn gyda dim ond £2 miliwn ar gael.  Mae’n anorfod felly y bydd y mwyafrif o ymgeiswyr yn cael eu siomi ac bydd nifer mawr o gynlluniau haeddiannol na allwn eu cefnogi.

I glywed am unrhyw gyfleoedd ariannu yn y dyfodol, tanysgrifiwch i'r Bwletin Cymorth Busnes

Close

 

Mae Grant Gwella Eiddo Canol Trefi, a gefnogir drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ac Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd a Cyngor Gwynedd wedi cael ei sefydlu i gefnogi busnesau mewn canol trefi a dinasoedd i ddatblygu ac uwchraddio eu heiddo. Rydym yn cydnabod bod busnesau canol trefi wedi, ac yn parhau i fod, yn wynebu cyfnod heriol yn economaidd.

Mae'r grant ar gael i fusnesau annibynnol, bach a chanolig eu maint sy'n gweithredu neu yn cynllunio i fod yn gweithredu mewn Canol Trefi a Dinasoedd yng Ngwynedd.

Prif bwrpas y gronfa yw ceisio gwneud gwahaniaeth diriaethol i ymddangosiad ein canol trefi a dinasoedd gan eu gwneud yn lleoedd mwy deniadol i ymweld â nhw a gweithio; annog pobl i dreulio eu hamser a'u harian yno. Bydd y Cyngor, felly, yn cefnogi gwelliannau i adeiladau busnes yn y brif ganolfan fasnachol (yn gyffredinol y stryd fawr - neu debyg - a lleoliadau yn union gyfagos)

Mae dwy opsiwn i’r gefnogaeth sydd ar gael: Cefnogaeth ar gyfer gwelliannau ffisegol i eiddo masnachol hyd at £25,000 ac i prosiectau fwy, hyd at £250,000.

 

Mae’r grant hwn gael i fusnesau a mentrau annibynnol, bach a chanolig eu maint yn y lleoliadau isod yng Ngwynedd. Bydd angen i fusnesau fod wedi'u lleoli o fewn y prif ganolfannau masnachol yn y lleoliadau hyn. 

  • Bangor
  • Caernarfon
  • Porthmadog
  • Pwllheli
  • Blaenau Ffestiniog
  • Dolgellau
  • Tywyn
  • Aberdyfi
  • Y Bala
  • Abermaw
  • Harlech
  • Penrhyndeudraeth
  • Cricieth
  • Nefyn
  • Abersoch
  • Penygroes
  • Llanberis
  • Bethesda

Bydd busnesau sydd wedi cofrestru am ardrethi busnes hefo Gyngor Gwynedd yn gymwys ynghyd â busnesau sy'n meddu ar y caniatâdau statudol angenrheidiol.

Ar gyfer ymholiadau cynllunio yng Ngwynedd (y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri), cysylltwch â cynllunio@gwynedd.llyw.cymru 

Ar gyfer ymholiadau cynllunio o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, cysylltwch â cynllunio@eryri.llyw.cymru

* cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd unrhyw gostau sy'n gysylltiedig ag unrhyw ganiatâd

 

Yn ogystal, bydd angen i'r busnes: 

  • Gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus;

Nid yw cwmnïau cadwyn cenedlaethol na rhyngwladol yn gymwys am gefnogaeth.

Yn dibynnu ar eich cais, yr isafswm y gellir ei ddyfarnu yw £2,500 a'r uchafswm yw £250,000. Os ydych yn ceisio am fwy na £25,000 mi fydd angen i chi ateb cwestiynau manylach. Gall y cyfraniad fod hyd at 70% o werth y gwaith.

Mae'r gronfa ar agor! 

Ceisiadau hyd at £25,000 – Byddwn yn derbyn ac asesu ceisiadau ar sail cyntaf i'r felin

Ceisiadau dros £25,000 - Rhaid i ni dderbyn eich cais erbyn dydd Gwener, 29 Medi  2023. Byddwn yn asesu’ch cais a bydd gennych chi dim mwy na wythnos i ddarparu unrhyw wybodaeth coll. Cyn belled â’ch bod wedi darparu’r holl wybodaeth mewn pryd, byddwn yn asesu ceisiadau o 6 Hydref 2023, gan geisio roi ateb i chi o fewn 8 wythnos.

Rydym yn disgwyl I'r ddwy gronfa fod yn boblogaidd iawn ac ni fyddwn yn gallu cefnogi pob cais 

Ariannu gwaith cyfalaf allanol a fydd yn uwchraddio eiddo masnachol. Mae’n rhaid i’r adeilad fod wedi ei leoli o fewn ffin masnachol y dref. Mae’r canlynol yn esiamplau o’r hyn fyddai’n gymwys: 

  • Gwaith uwchraddio i’r adeilad;
  • Ffenestri a drysau newydd;
  • Arwyddion newydd 

Ni fydd llafur unigolion ar eu heiddo yn cael ei ystyried yn gymwys. 

Os yw'r eiddo dan sylw yn destun cytundeb rhent/prydles yna dylai'r tenant fod â phrydles gyda 7 mlynedd neu fwy yn weddill ar ddyddiad y cais a dylai fod wedi sicrhau cydsyniad ysgrifenedig ei landlord i'r gwaith arfaethedig.

Bydd rhaid i'r holl waith ddiwallu gofynion iechyd a diogelwch a bydd y busnes yn gyfrifol am gael yswiriant a chynnal a chadw unrhyw waith yn gywir a diogel.

  

Gwneud cais  

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais oedd 29 Medi 2023.

 

Prif Ddogfennau

 

Mwy o wybodaeth

Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: grantiaubusnes@gwynedd.llyw.cymru