Eiddo gwag
Os yw eiddo heb ei feddiannu, does dim angen talu trethi busnes am 3 mis.
Yn achos ffatrïoedd a warysau, does dim angen talu am 6 mis.
Does dim angen talu trethi busnes ar eiddo sydd heb ei feddiannu:
- os yw’r gwerth ardrethol o dan £2,600
- os yw’n adeilad rhestredig
- os yw’n eiddo i fethdalwr
- os oes gwaharddiad cyfreithiol ar feddiannu’r adeilad.fghgf
Eiddo rhannol wag
Os yw rhan o eiddo heb ei feddiannu, a bod y Cyngor yn credu y bydd yn rhannol wag am gyfnod byr, gall y Cyngor drafod â’r Swyddfa Brisio a chodi trethi am y rhan o’r adeilad sy’n cael ei meddiannu yn unig.