Trethi annomestig

Trethi annomestig yw’r trethi sy’n cael eu codi ar y rhan fwyaf o adeiladau masnachol ac adeiladau di-breswyl e.e. siopau, swyddfeydd, tafarnau, ffatrïoedd ac ati.

Y Cyngor sy’n gyfrifol am gasglu’r arian. Caiff wedyn ei roi mewn pot cenedlaethol a’i ailddosbarthu i’r Cynghorau ar sail poblogaeth, i’w wario ar wasanaethau, a chomisiynwyr heddlu a throseddu.

Os ydych yn defnyddio adeilad (neu ran o adeilad) ar gyfer busnes, mae’n debyg y bydd gofyn i chi dalu trethi anomestig. Pwy bynnag sy’n meddiannu’r adeilad sy’n talu fel arfer yn hytrach na’r perchennog.

 Gwybodaeth am sut mae'r bil yn cael ei gyfrifo  


Sut mae talu eich bil?  

  • Ffurflen Debyd Uniongyrchol  
    Debyd Uniongyrchol ydi'r ffordd hawsaf o dalu. Gallwch ddewis talu ar y 5ed, 15ed, 21ain neu'r 28ain o'r mis.

 

  • talu ar-lein
  • Talu dros y ffôn: 01766 771000 (rhwng 08:30 a 17:00 Llun i Gwener) 
  • Trwy'r post:  Anfonwch siec neu archeb bost i: 

    Cyngor Gwynedd, Uned Incwm, Swyddfeydd y Cyngor, Stryd y Jêl,  Caernarfon,  LL55 1SH.
    Rhaid croesi pob siec, archeb bost gyda'r geiriau "Cyfrif Taledig" a'i gwneud yn daladwy i "Cyngor Gwynedd".  Bydd angen nodi eich cyfeirnod a'ch enw/cyfeiriad ar gefn y siec. Ni fydd derbynneb yn cael ei hanfon ar gyfer taliadau siec.


Trafferth talu

Os ydych yn ei chael yn anodd talu’r bil, cysylltwch â ni’n syth:

Gostyngiadau, rhyddhad ac eiddo gwag

Gweld gwybodaeth am y gwahanol gynlluniau a allai eich helpu