Sut caiff y bil ei gyfrifo?

Gwerth ardrethol

Mae’r dreth yn ddibynnol ar werth ardrethol eiddo ar ddyddiad penodol, sef 1 Ebrill 2015 ar hyn o bryd. Mae’r gwerth ardrethol yn cael ei seilio ar:

Caiff holl eiddo annomestig ei ailbrisio gan y Swyddfa Brisio bob pum mlynedd er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y farchnad. Er hynny, cafodd ailbrisiad 2015 ei ohirio gan y Llywodraeth hyd at 2017, gyda gwerthoedd newydd i ddod i rym o 1 Ebrill 2017. Hyd at y dyddiad yma, bydd gwerthoedd ardrethol yn cael eu defnyddio yn ôl y rhestr gyfredol yn seiliedig ar ddyddiad gwerthoedd 1 Ebrill 2008.

 

Ailbrisiad 2017

Mae biliau 2017/18 yn seiliedig ar Restr Brisio 2017. Mae'r gwerthoedd ardrethol yn seiliedig a'r werthoedd 1 Ebrill 2015. Os ydych yn credu bod eich gwerth ardrethol yn anghywir ewch i wefan gov.uk. (gwefan Saesneg yn unig).

Gwybodaeth bellach ynglŷn ag ailbrisiad 2017


Lluosydd cenedlaethol

Er mwyn cyfrifo faint o dreth y mae angen i chi ei dalu, bydd y Cyngor yn lluosi gwerth ardrethol yr adeilad gyda'r lluosydd cenedlaethol. Y lluosydd ar gyfer 2020/21 yw 53.5 yn y bunt.  


Felly os yw gwerth ardrethol eiddo yn £10,000 bydd y bil treth yn £5,350. Gall eithriadau fodoli pan fydd eiddo yn gymwys i dderbyn 
gostyngiadau neu ryddhad.  Caiff y lluosydd ei osod gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Heblaw am flwyddyn ailbrisio, ni all godi mwy na’r mynegai prisiau manwerthu (RPI).

 

 

Anghytuno â’r gwerth ardrethol?

Os ydych yn credu bod gwerth ardrethol eich eiddo’n anghywir, neu bod yr amgylchiadau wedi newid, am ragor o wybodaeth:

Os nad yw’n bosib i chi a’r Swyddfa Brisio gytuno, mae’n bosib apelio a chael gwrandawiad yn y Tribiwnlys Prisio.

Mae mwy o fanylion ynghylch y drefn ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.