Gogs y Gogs

Busnes: Cogs y Gogs

Lleoliad: Caernarfon

Swm y grant: £7,028.00

Derbyniodd Cogs y Gogs Grant Datblygu Busnes Cyngor Gwynedd am offer i atgyweirio beiciau trydan ac i alluogi targedu marchnadoedd newydd.  

Gan ddechrau yn 2019 fel mecanic beiciau symudol, sefydlodd Neil Jones, Cogs y Gogs ochr yn ochr â'i swydd ond yn sydyn cafodd ei hun yn rhedeg y busnes yn llawn amser ar ôl cael ei ddiswyddo yn 2020. Wrth daflu bob dim i mewn i’r busnes, daeth Cogs y Gogs yn llwyddiant, ond buan y sylweddolodd fod poblogrwydd e-feiciau yn tyfu a bod hwn yn gyfle i ddatblygu'r busnes a'i sgiliau ymhellach.  

"Nawr ein bod yn arbenigo mewn diagnosteg, atgyweiriadau, a phecynnau e-feic, rydym wedi gallu diogelu'r busnes am y dyfodol gan ddefnyddio Cronfa Sbarduno i brynu offer a fyddai fel arall yn gwneud y swydd yn anhygoel o anodd. " – Neil Jones, perchennog. 

Gyda haf prysur iawn ar y gorwel, mae Neil yn gobeithio cyflogi yn y dyfodol wrth i'r busnes barhau i dyfu.  

 

arianu-gan-llyw-du