Darparu Cyngor

Mae cyngor ar gael i helpu eich busnes wneud yn siwr eich bod yn cadw at reolau gofynnol ac awgrymiadau ymarfer da o fewn iechyd yr amgylchedd a thrwyddedu.

Gallwn gynnig cyngor a/ neu hyfforddiant yn y meysydd yma:

  • Trefniadau diogelwch bwyd
  • Anghenion labelu bwyd
  • Gofynion safonau cyfansoddiadol, microbiolegol a chemegol bwyd a dŵr yfed
  • Cynllun sgorio hylendid bwyd
  • Gofynion strwythurol adeiladau gan gynnwys systemau awyru ceginau
  • Storio a thrin gwastraff
  • Ansawdd awyr
  • Tir llygredig
  • Rheoli/ atal sŵn
  • Iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • Ceisiadau am drwyddedau (er enghraifft eiddo, maes carafannau)

£120 (yn cynnwys TAW) am hyd at ddwy awr yn eich busnes.

Cam 1 

Cysylltu gyda'r gwasanaeth i drafod eich anghenion:

 

Cam 2

Wedi sefydlu y gallwn helpu eich busnes rhaid llenwi ffurflen gais ac anfon siec

Llenwi ffurflen gais

O fewn 5 diwrnod gwaith byddwn yn cydnabod derbyn eich cais a cadarnhau

  • os oes angen mwy o wybodaeth
  • enw'r swyddog fydd yn delio gyda'ch cais

Cam 3

Bydd swyddog yn ymweld a'ch busnes ar amser/ dyddiad fydd wedi ei gytuno o flaen llaw i ddarparu cyngor a/ neu hyfforddiant.

Pe byddech angen mwy o gyngor ar ôl eich sesiwn 2 awr rhaid i chi ddweud wrth y Swyddog.
Efallai bydd angen talu ffi ychwanegol am hyn.

Telerau ac amodau - Rhaid darllen a chytuno gyda'r telerau ac amodau cyn llenwi'r ffurflen gais.

 

Eich manylion - Rhaid cynnwys manylion cyswllt gan gynnwys e-bost a rhif ffôn yr ydych yn gallu ei ateb 09:00-17:00 Dydd Llun i Ddydd Gwener.

 

Disgrifiad o'r Cyngor rydych eisiau - Disgrifiwch pa gyngor neu gymorth yr ydych ei angen. Os ydych am dderbyn hyfforddiant nodwch nifer yr unigolion (fel arfer hyd at 5).

 

Lleoliad - Rhaid cynnwys lleoliad neu gyfeiriad yr eiddo rydych am i'r swyddog fynd iddo i ddarparu'r cyngor/ hyfforddiant

 

Gwybodaeth Arall - Unrhyw wybodaeth arall yr ydych yn dymuno i ni ei wybod cyn ystyried eich cais. Er enghraifft os ydych yn bwriadu dechrau busnes neu defnydd yr eiddo ar hyn o bryd.

 

Llofnod - Rhaid arwyddo ffurflen gais a cydnabod eich bod yn cytuno a'r telerau ac amodau.

 

Taliad - Gallwch anfon siec gyda'r ffurflen gais (taladwy i: Cyngor Gwynedd) neu talu ar ôl derbyn anfoneb.

Gallwn deilwra y gwasanaeth yn arbennig i anghenion eich busnes chi. Trwy wneud hyn gallwch:

  • Arbed arian
  • Leihau'r angen i gyflogi ymgynghorwyr proffesiynol
  • Dderbyn adborth gan arbenigwyr yn y maes
  • Helpu i ddatblygu'r busnes
  • Helpu i gwrdd â gofynion statudol ac ymarfer da
  • Helpu i ddeall deddfwriaethau/ safonau sydd yn berthnasol i'ch busnes