Telerau ac amodau - Rhaid darllen a chytuno gyda'r telerau ac amodau cyn llenwi'r ffurflen gais.
Eich manylion - Rhaid cynnwys manylion cyswllt gan gynnwys e-bost a rhif ffôn yr ydych yn gallu ei ateb 09:00-17:00 Dydd Llun i Ddydd Gwener.
Disgrifiad o'r Cyngor rydych eisiau - Disgrifiwch pa gyngor neu gymorth yr ydych ei angen. Os ydych am dderbyn hyfforddiant nodwch nifer yr unigolion (fel arfer hyd at 5).
Lleoliad - Rhaid cynnwys lleoliad neu gyfeiriad yr eiddo rydych am i'r swyddog fynd iddo i ddarparu'r cyngor/ hyfforddiant
Gwybodaeth Arall - Unrhyw wybodaeth arall yr ydych yn dymuno i ni ei wybod cyn ystyried eich cais. Er enghraifft os ydych yn bwriadu dechrau busnes neu defnydd yr eiddo ar hyn o bryd.
Llofnod - Rhaid arwyddo ffurflen gais a cydnabod eich bod yn cytuno a'r telerau ac amodau.
Taliad - Gallwch anfon siec gyda'r ffurflen gais (taladwy i: Cyngor Gwynedd) neu talu ar ôl derbyn anfoneb.