Clwb
Mae’n rhaid i chi gael trwydded safle clwb gan eich awdurdod lleol i awdurdodi cyflenwi alcohol a darparu adloniant rheoledig mewn clwb cymwys. Mewn clwb cymwys, yn dechnegol nid yw alcohol yn cael ei adwerthu (ac eithrio i westeion) oherwydd bod yr aelodau yn berchen ar gyfran o’r stoc alcohol ac mae’r arian sy’n cael ei gyfnewid ar draws y bar yn fecanwaith i gadw cydraddoldeb rhwng aelodau lle gallai un yfed mwy na’r llall. Er mwyn cael eich cyfrif fel clwb cymwys mae’n rhaid bodloni’r gofynion amrywiol a nodir yn Neddf Trwyddedu 2003 hefyd.
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i glybiau fod yn glybiau cymwys. Mae’n rhaid bodloni’r amodau hyn er mwyn bod yn glwb cymwys:
- ni all person fod yn aelod na derbyn breintiau aelodaeth cyn pen cyfnod o ddeuddydd ar ôl cyflwyno’r cais neu’r enwebiad am aelodaeth
- bod rheolau’r clwb yn datgan na all y rhai sy’n dod yn aelodau heb enwebiad neu gais gael breintiau aelodaeth am o leiaf 2 ddiwrnod rhwng dod yn aelod a chael eu derbyn i’r clwb
- bod y clwb wedi’i sefydlu ac yn cael ei gynnal yn ddidwyll
- bod gan y clwb o leiaf 25 aelod
- nad yw alcohol ond yn cael ei gyflenwi i aelodau ar y safle ar ran neu gan y clwb
Rhaid cydymffurfio ag amodau ychwanegol mewn perthynas â chyflenwi alcohol:
- mai aelodau o’r clwb, sydd dros 18 oed ac wedi eu dewis gan yr aelodau i wneud hynny, ddylai fod yn prynu alcohol ar gyfer y clwb ac yn ei gyflenwi
- na all yr un person, ar draul y clwb, dderbyn unrhyw gomisiwn, canran nac unrhyw daliad tebyg mewn perthynas â phrynu alcohol gan y clwb
- nad oes unrhyw drefniant gan unrhyw un i dderbyn budd ariannol o gyflenwi alcohol ac eithrio unrhyw fudd i’r clwb
Bydd cymdeithasau diwydiannol, cymdeithasau darbodus a chymdeithasau cyfeillgar sydd wedi eu cofrestru, yn gymwys, os bydd yr alcohol sy’n cael ei brynu ar gyfer y clwb a’i ddosbarthu gan y clwb, yn cael ei brynu dan reolaeth yr aelodau neu bwyllgor o’r aelodau.
Gellir ystyried sefydliadau lles glowyr perthnasol hefyd. Sefydliad perthnasol yw un a reolir gan bwyllgor neu fwrdd sy’n cynnwys o leiaf ddwy ran o dair o bobl a apwyntiwyd neu a ddyrchafwyd gan un neu fwy o weithredwyr trwyddedig dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 a chan un neu fwy o sefydliadau sy’n cynrychioli gweithwyr pyllau glo. Gall y sefydliad gael ei reoli gan bwyllgor neu fwrdd nad yw’n ateb y disgrifiad uchod os yw o leiaf ddwy ran o dair o’r aelodau naill ai’n rhai a gâi eu cyflogi, neu a gyflogir yn neu o amgylch pyllau glo neu’n bobl a apwyntiwyd gan Sefydliad Lles y Diwydiant Glo neu gan gorff oedd â swyddogaethau tebyg dan Ddeddf Lles y Glowyr 1952. Beth bynnag, mae’n rhaid i adeilad y sefydliad gael ei ddal gan ymddiriedolaeth fel sy’n angenrheidiol dan Ddeddf Elusennau Adloniadol 1958.
Proses gwerthuso’r cais
Gall clwb wneud cais am dystysgrif adeilad clwb ar gyfer unrhyw adeilad sydd ym meddiant clwb ac yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd at ddibenion clwb.
Dylid gwneud cais i’r awdurdod trwyddedu lleol, sef yr awdurdod lleol lle mae’r adeilad wedi ei leoli.
Dylai’r ceisiadau gael eu cyflwyno ynghyd â chynllun o’r adeilad mewn fformat penodol, copi o reolau’r clwb a rhaglen gweithredu’r clwb.
Mae rhaglen gweithredu’r clwb yn ddogfen mewn fformat penodol sy’n cynnwys gwybodaeth am:
- weithgareddau’r clwb
- yr amser pan fo’r gweithgareddau i ddigwydd
- amserau agor
- a yw’r cyflenwadau alcohol i’w hyfed ar y safle, oddi arno neu’r ddau
- y camau y bwriada’r clwb eu cymryd i hyrwyddo amcanion y trwyddedu
- unrhyw wybodaeth arall angenrheidiol.
Os oes unrhyw newidiadau i’r rheolau neu enw’r clwb cyn i’r cais gael ei bennu neu ar ôl i dystysgrif gael ei rhoi, rhaid i ysgrifennydd y clwb roi manylion i’r awdurdod trwyddedu lleol. Os yw tystysgrif yn ei lle, rhaid ei gyrru at yr awdurdod trwyddedu pan hysbysir hwy.
Os yw tystysgrif yn ei lle a bod cyfeiriad cofrestru’r clwb yn newid, rhaid i’r clwb hysbysu’r awdurdod trwyddedu lleol o’r newid a darparu’r dystysgrif gyda’r hysbysiad.
Gall clwb wneud cais i awdurdod trwyddedu lleol i newid tystysgrif. Dylai’r dystysgrif gael ei gyrru gyda’r cais.
Gall yr awdurdod trwyddedu lleol archwilio’r adeilad cyn yr ystyrir y cais.
Gall fod ffi yn daladwy am unrhyw fath o gais perthnasol i dystysgrif adeilad clwb.
Gwneud cais
Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.
Ffioedd
Cofrestr gyhoeddus
Gweld cofrestr gyhoeddus o dystysgrifau clwbiau yng Ngwynedd
Deddfau perthnasol
Deddf Trwyddedu 2003 (cyswllt i wefan allanol – Saesneg yn unig)
A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae'n ofynnol i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.
Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Byddwch yn derbyn hysbysiad os caiff y cais ei wrthod. Os gwrthodir cais, gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad.
Rhaid i apeliadau pellach gael eu gwneud yn y Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod i benderfyniad yr apêl.
Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Os yw awdurdod trwyddedu lleol yn gwrthod cais am amrywiad gall deiliad y drwydded apelio'n erbyn y penderfyniad. Gall deiliad y drwydded apelio'n erbyn unrhyw benderfyniad i roi amodau ar dystysgrif neu i eithrio unrhyw weithgarwch gan y clwb. Gellir apelio hefyd yn erbyn amrywio unrhyw amod.
Gellir apelio'n erbyn penderfyniad adolygiad.
Gall clwb apelio'n erbyn tynnu tystysgrif yn ôl.
Rhaid i apeliadau pellach gael eu gwneud yn y Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod i benderfyniad yr apêl.
Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).
Gall aelod o glwb wneud cais am adolygiad o’r dystysgrif. Bydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn rhoi rhesymau dros eu hymateb i’r cais mewn hysbysiad.
Gellir gwneud apeliadau yn erbyn penderfyniad yr adolygiad.
Rhaid i apeliadau gael eu gwneud yn y Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod i benderfyniad yr apêl.
Gall unrhyw barti sydd â diddordeb wneud cynrychioliad i’r awdurdod trwyddedu lleol cyn bod y dystysgrif yn cael ei chaniatáu. Os gwneir cynrychioliad, cynhelir gwrandawiad i ystyried y cais a’r cynrychioliadau. Rhoir hysbysiad gan yr awdurdod trwyddedu lleol yn manylu am y rhesymau dros y canlyniad. Bydd partïon â diddordeb a wnaeth gynrychioliad yn derbyn hysbysiad o gais a wrthodwyd.
Parti â diddordeb yw:
- person yn byw yn ymyl y safle neu gorff yn cynrychioli’r fath berson
- person sy’n ymwneud â busnes yn ymyl y safle neu gorff yn cynrychioli’r fath berson
Gall parti sydd â diddordeb ofyn am adolygiad o dystysgrif adeilad y clwb. Bydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn rhoi rhesymau dros eu hymateb i’r cais mewn hysbysiad.
Gall parti sydd â diddordeb apelio os dadleuant na ddylid bod wedi caniatáu’r dystysgrif neu y dylai gwahanol amodau neu amodau ychwanegol neu gyfyngiadau ar weithgareddau fod wedi eu gwneud. Gallant hefyd apelio yn erbyn unrhyw newid ar amod.
Gellir apelio yn erbyn penderfyniad adolygiad. Rhaid i apeliadau gael eu gwneud yn y Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod i benderfyniad yr apêl.
Cymdeithasau masnach
Federation of Licensed Victuallers Associations (FLVA)