Pwyllgor Safonau
Rôl y Pwyllgor Safonau yw hyrwyddo, cynnal a gwarchod safonau ymddygiad aelodau o fewn Cyngor Gwynedd a phob cyngor cymuned a thref o fewn Gwynedd.
Mae’n bwyllgor statudol, ac mae ganddo’ r swyddogaethau canlynol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i:
- hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan Gynghorwyr
- cynorthwyo’r Cynghorwyr i ddilyn y Cod Ymddygiad Aelodau;
- cynghori’r Cyngor ar fabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad Aelodau;
- monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad Aelodau;
- cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi Cynghorwyr ar faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad Aelodau;
Mewn perthynas â Chyngor Gwynedd mae ganddo hefyd y swyddogaethau canlynol:
- monitro cydymffurfiaeth arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y cyngor â’u dyletswyddau o dan adran 52A(1) Deddf Llywodraeth Leol 2000;
- cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y cyngor ynghylch materion sy’n ymwneud â’r dyletswyddau hynny.
Penderfynu ar Gwynion
Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am benderfynu ar gwynion bod cynghorwyr wedi torri’r Cod Ymddygiad, sydd wedi eu cyfeirio ato gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Gall y Pwyllgor hefyd roi goddefebau sy'n caniatáu i gynghorwyr sydd â buddiant mewn eitem benodol sydd i’w drafod mewn cyfarfod barhau i gymryd rhan yn y drafodaeth honno.
Aelodau’r Pwyllgor
Mae cyfanswm o 9 o aelodau ar y Pwyllgor sef:
- 5 Aelod Annibynnol (nad ydynt yn aelodau o Gyngor Gwynedd nag unrhyw gyngor tref neu gymuned). Bydd Cadeirydd a’r Is-gadeirydd y Pwyllgor yn dod o blith yr aelodau yma.
- 3 Aelod Etholedig sy’n gynghorwyr Gyngor Gwynedd
- 1 Aelod Cymunedol sy’n aelod o gyngor tref neu gymuned
Gweld manlynion aelodaeth bresennol y Pwyllgor
Seddi gwag
Rydym yn edrych am unigolyn i wasanaethu ar hyn o bryd fel Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor:
Gweld Pecyn Ymgeiswyr
Cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau
Gweld Cofnodion a Rhaglenni y Pwyllgor
Y Cod Ymddygiad
Mae’n rhaid i bob cyngor fabwysiadu Cod Ymddygiad i’w aelodau etholedig a chyfetholedig. Pan fydd aelod yn derbyn ei swydd bydd yn ymgymryd i barchu’r Cod Ymddygiad ei (h)awdurdod.
Gweld Cod Ymddygiad Cyngor Gwynedd.
Mae gan Gyngor Gwynedd hefyd ‘Safon Gwynedd’ sef dogfen sy’n egluro’r safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth gynghorwyr Cyngor Gwynedd wrth ymdrin â’i gilydd. Mae’r ddogfen yma i’w gweld fel Atodiad i’r Cod Ymddygiad.
Cwynion
Os am wneud cwyn ffurfiol bod aelod wedi methu cadw at y Cod Ymddygiad rhaid ei chyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Panel Dyfarnu Cymru
Mae Panel Dyfarnu Cymru yn dribiwnlys annibynnol sy’n gyfrifol am benderfynu ar gwynion o dorri’r Cod Ymddygiad a gyfeirir ato gan yr Ombwdsmon ac am ystyried apeliadau gan aelodau yn erbyn penderfyniadau gan Bwyllgorau Safonau awdurdodau lleol Cymru.
Mynd i wefan Panel Dyfarnu Cymru
Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Safonau
Mae dyletswydd ar y Pwyllgor i adrodd yn flynyddol ar ei waith:
[adroddiadau blynyddol]