Swyddog Monitro

Iwan G D Evans, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, ydy Swyddog Monitro’r Cyngor.

Mae gan y Swyddog Monitro gyfrifoldeb statudol i sicrhau fod y Cyngor yn gweithredu mewn ffordd gyfreithlon ac nad yw’n gwneud unrhyw beth allai fod yn gamweinyddu.

Os oes gennych gwyn ynglŷn ag unrhyw beth mae’r Cyngor wedi ei wneud defnyddiwch y Drefn Gwyno.

Y Swyddog Monitro sydd hefyd yn gyfrifol am weithrediad y Cod Ymddygiad Aelodau, y Pwyllgor Safonau ac am gynnal Cyfansoddiad y Cyngor.

Os oes gennych gwyn fod un o’r cynghorwyr wedi torri’r Cod Ymddygiad cysylltwch â’r Swyddog Monitro neu gallwch wneud cwyn ffurfiol i’r Ombwdsmon. 

Manylion cyswllt: 

Iwan G D Evans
Swyddog Monitro
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

01286 679015
IwanGDEvans@gwynedd.llyw.cymru