Eithriadau

Fe gewch weld unrhyw wybodaeth gan y Cyngor, ond fe geir eithriadau ar gyfer gwybodaeth a ddylai fod yn gyfrinachol. Nid yw hyn yn cynnwys gwybodaeth amdanoch eich hun - ceir gwybodaeth am hynny yn yr adran Ddeddf Diogelu Data.


Eithriadau llwyr

a21 Gwybodaeth sydd ar gael fel arall, sef gwybodaeth y mae’n gymharol hawdd i’r cyhoedd ei gweld trwy ffordd arall heblaw Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

a32 Cofnodion Llys, megis dogfennau sydd wedi’u ffeilio neu eu rhoi yn nwylo’r llys.

a40 Gwybodaeth bersonol am yr unigolyn sy’n gwneud cais – ymdrinnir â’r cais o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data.

a41 Gwybodaeth a roddir yn gyfrinachol gan unrhyw un

a44 Gwybodaeth y gwaherddir ei datgelu er enghraifft dan ddeddfwriaeth; y byddai ei datgelu’n golygu dirmyg llys neu yn anghydnaws ag unrhyw un o ymrwymiadau’r Gymuned Ewropeaidd.


Eithriadau lle mae’n rhaid defnyddio “prawf lles y cyhoedd”

Os yw’r awdurdod yn penderfynu bod un neu ragor o’r eithriadau yn berthnasol, mae’n rhaid iddo ddatgelu’r wybodaeth oni bai ei fod yn penderfynu bod ‘lles y cyhoedd’ yn mynnu bod angen glynu at yr eithriad.

a22 Gwybodaeth a fwriadwyd i’w chyhoeddi yn y dyfodol h.y. mewn amgylchiadau lle mae’n rhesymol i beidio â datgelu’r wybodaeth hyd y diwrnod y bwriedir ei chyhoeddi.

a30 Gwybodaeth yn ymwneud ag ymchwiliadau ac achosion llys a ymgymerir gan awdurdod cyhoeddus megis gwybodaeth am ymchwiliadau ac achosion troseddol a gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau cyfrinachol ar gyfer achosion llys troseddol neu sifil.

a31 Gwybodaeth yn ymwneud â gorfodi’r gyfraith

a33 Gwybodaeth yn ymwneud â swyddogaethau archwilio

a36 Gwybodaeth a fyddai’n niweidio’r gwaith o ymdrin â materion cyhoeddus yn effeithiol

a38 Gwybodaeth lle byddai ei datgelu yn peryglu iechyd corfforol neu feddyliol neu ddiogelwch unrhyw unigolyn

a39 Gwybodaeth am yr amgylchedd – yn dod o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

a40 Gwybodaeth bersonol ynghylch trydydd parti – pe bai ei datgelu’n mynd yn groes i egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data

a42 Gwybodaeth sy’n dod o dan fraint gyfreithiol broffesiynol

a43 Gwybodaeth am fuddiannau masnachol lle mae’r wybodaeth yn gyfrinach fasnachol neu pe byddai ei datgelu yn niweidio neu’n debygol o niweidio buddiannau masnachol unrhyw unigolyn.