Strategaeth Cyfranogiad
Rydym wedi cyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad sy’n egluro sut yr ydym yn annog pobl leol i gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Cyngor.
Gweld Strategaeth Cyfranogiad Cyngor Gwynedd
Mae strategaeth gyfranogi'r cyhoedd y Cyngor yn disgrifio sut fydd y Cyngor yn:
-
hyrwyddo ymwybyddiaeth o swyddogaethau'r Cyngor;
-
hyrwyddo ymwybyddiaeth o sut all pobl ddod yn Gynghorydd a beth mae'r rôl yn ei olygu;
-
hwyluso mynediad at wybodaeth ynghylch y penderfyniadau a wnaed, neu sydd i'w gwneud, gan y Cyngor;
-
hyrwyddo'r trefniadau lle y gall pobl wneud sylwadau i'r Cyngor ynghylch y penderfyniadau y mae wedi'u gwneud neu y bydd yn eu gwneud yn y dyfodol;
-
sicrhau fod barn y cyhoedd yn cael ei ddwyn i sylw ei Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu; a
-
hyrwyddo ymwybyddiaeth ymysg Cynghorwyr o fanteision defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phobl leol.
Gofyn cwestiwn yn y Cyngor Llawn:
Rydym yn croesawu cwestiynau ffurfiol gan y cyhoedd yng nghyfarfodydd y Cyngor llawn. Mae trefniadau penodol ar gyfer hynny, gan gynnwys rhoi rhybudd ysgrifenedig digonol o flaen llaw.
Gweld canllawiau sut i ofyn cwestiwn yn y Cyngor Llawn
Deisebau
Gallwch gyflwyno deisebau i'r Cyngor drwy ddilyn yn drefn sydd wedi ei hamlinellu yng Nghynllun Deisebau Gwynedd.
Gweld manylion - Cynllun Deisebau