Cyngor Gwynedd yn cefnogi'r ymgyrch i ddileu elw o ofal maeth
Dyddiad: 15/08/2023
Mae Maethu Cymru Gwynedd yn tanlinellu’r manteision o faethu gydag awdurdod lleol, wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal.
Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.
Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.
O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.
Yn sgil y newidiadau hyn, mae Maethu Cymru Gwynedd – sy’n rhan o’r rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Plant a Chefnogi Teulu:
“Pan fo plentyn neu berson ifanc yn methu byw efo’u teuluoedd am pa bynnag reswm, mae teuluoedd maeth yn camu i’r bwlch ac yn gwneud gwaith gwych o sicrhau fod ganddynt le diogel i alw’n gartref a’r gefnogaeth i symud ymlaen tuag at ddyfodol llewyrchus. Rydw i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn ofalwr maeth i gysylltu efo’r tîm yma yng Ngwynedd am sgwrs.
“Rydw i’n hynod falch fod Cymru yn arwain y ffordd yn y maes o ddileu elw preifat o wasanaethau plant mewn gofal. Dyma gyfle heb ei ail i wneud newid cadarnhaol, er budd pobl ifanc sy’n derbyn gofal heddiw, ac yn y dyfodol.
“Mae Gofal Maeth Awdurdod Lleol yn cynnig llawer o fanteision – o gefnogaeth, hyfforddiant i'r gymuned – yn bwysicaf oll, yr opsiwn i bobl ifanc aros yn lleol. Os oes pobl yng Ngwynedd yn maethu gyda chwmnïau annibynnol, yn yr un modd byddwn yn eu hannog i gysylltu â’r tîm yn Maethu Cymru Gwynedd am sgwrs.”
Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.
Dywedodd Wilma Jones, sydd bellach yn maethu gyda Maethu Cymru Gwynedd wedi trosi o asiantaeth annibynnol: “O’r munud nes i ddechrau maethu gydag asiantaeth breifat, roeddwn i’n teimlo ei fod i gyd yn ymwneud â phres ac elw iddyn nhw. Doedd dim cefnogaeth, doedden nhw ddim yno i ni o gwbl.
“Darparu cariad a chartref ydi maethu i mi, ac ers i mi drosglwyddo i faethu gyda’n hawdurdod lleol yng Ngwynedd, mae’r profiad wedi bod yn hollol wahanol.
“Rwy’n cael fy nghefnogi’n llawn ac mae gen i ansawdd bywyd llawer gwell rŵan. Dyma sut y dylai maethu fod.”
I gael rhagor o wybodaeth am faethu ewch i: www.maethucymru.llyw.cymru/ ac am wybodaeth am sut i drosglwyddo, ewch i: www.maethucymru.llyw.cymru/eisoes-yn-maethu Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ar: 01286 682660 / maethu@gwynedd.llyw.cymru.