Cyngor Gwynedd yn cynnal sesiynau costau byw ar y cyd gyda Cyngor ar Bopeth
Dyddiad: 21/08/2023
Cynhelir cyfres o sesiynau cymorth costau byw gan Gyngor Gwynedd mewn cydweithrediad â Cyngor ar Bopeth yn Llyfrgell Porthmadog (Canolfan Glaslyn) pob pythefnos o 26 Mehefin ymlaen, rhwng 10am-1pm.
Gyda’r argyfwng costau byw yn parhau i wneud pethau’n anodd i nifer o bobl leol, bydd swyddogion arbenigol Cyngor Gwynedd ar gael yn ystod y sesiynau i gynnig cyngor am feysydd yn cynnwys:
- costau byw
- budd-daliadau a Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP),
- cymorth i gyn-filwyr,
- cymorth dyledion
- banciau bwyd.
- ynni yn y cartref.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Rydym yn falch iawn o allu cyd-weithio gyda Cyngor ar Bopeth i amlinellu’r cymorth sydd ar gael yma yng Ngwynedd. Gall unrhyw un ohonom fynd ar ei hôl hi gyda biliau, ond tydi hi byth yn rhy hwyr i ofyn am help a chyngor.
“Rwyf yn annog unrhyw un sydd yn ei gweld hi’n anodd i ddod draw i’r sesiynau i weld pa gymorth sydd ar gael gan y Cyngor ac yn ehangach.
“Cofiwch fod angen gwneud apwyntiad ar gyfer y sesiynau a gallwch wneud hyn drwy ffonio Llyfrgell Porthmadog 01766 514091.”
Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ym Mhorthmadog ewch draw i wefan y Cyngor Cymorth Costau Byw (llyw.cymru)
Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan Cyngor Ar Bopeth bopeth ewch draw i’w Gwefan CAB Gwynedd