Canlyniadau Lefel A Ysgolion Gwynedd –2024

Dyddiad: 15/08/2024
Dymuna Cyngor Gwynedd longyfarch fyfyrwyr y sir wrth i ganlyniadau Lefel A gael eu cyhoeddi heddiw.

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Gwynedd:

“Mae lle, unwaith eto, i ymfalchïo yn llwyddiant ein pobl ifanc . Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr am eu hymroddiad a’u dyfalbarhad ac mae fy niolch hefyd i’r athrawon a’r staff ysgolion am eu gwaith caled wrth baratoi a chefnogi’r myfyrwyr mor drylwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

“Hoffwn ddymuno’r gorau i’n pobl ifanc wrth iddynt gymryd y camau nesaf cyffrous yn eu gyrfaoedd.”

Nododd Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd ei fodlonrwydd gyda’r canlyniadau Lefel A, Uwch Gyfrannol a chanlyniadau galwedigaethol cyfatebol yn ysgolion uwchradd Gwynedd.

Meddai: “Mae’n bleser cael datgan pa mor falch ydw i gyda chanlyniadau ysgolion Gwynedd. Mae’r myfyrwyr a’r athrawon i’w llongyfarch yn fawr ar eu llwyddiant.

“Hoffwn ddiolch i’r ysgolion a’r athrawon am eu gwaith caled a’u hymroddiad, i’r myfyrwyr am eu hymdrechion arbennig ac i’w teuluoedd am eu cefnogaeth gyson.”

Cyfeiriodd y Pennaeth Addysg hefyd at ei falchder yn llwyddiant myfyrwyr Gwynedd yn yr arholiadau Uwch Gyfrannol, gan ddymuno’n dda iawn iddynt oll yn eu Lefel A y flwyddyn nesaf.