Canlyniadau TGAU 2024 – Cyngor Gwynedd yn llongyfarch disgyblion

Dyddiad: 22/08/2024

Mae Cyngor Gwynedd yn llongyfarch disgyblion y sir ar lwyddiant eu canlyniadau TGAU eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:

“Mae’r canlyniadau yn gadarnhaol iawn ac mae’r disgyblion i’w llongyfarch yn fawr. Rydym yn awyddus i weld pob un o’n pobl ifanc yn llwyddo ac yn ffynnu. Hoffwn ddiolch i athrawon a staff yr ysgolion am eu gwaith caled a’u hymroddiad trwy gydol y flwyddyn.”

Wrth longyfarch y disgyblion ar eu llwyddiant, dywedodd Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd:

“Mae’r canlyniadau TGAU yn ganmoladwy eleni ac yn tystio i ymroddiad a gwaith caled ein pobl ifanc. Llongyfarchiadau mawr iddynt ar eu llwyddiant. Mae’r canlyniadau yn adlewyrchu’r pwyslais a roddir yn ysgolion Gwynedd ar gynhwysiad, llesiant, cyfle cyfartal a llwyddiant y disgyblion fel unigolion.”

Nodiadau: Ni ryddheir unrhyw wybodaeth gan Gyngor Gwynedd am ysgolion unigol.