Cymorth ar gael ar gyfer y tymor ysgol newydd

Dyddiad: 16/08/2024
Mae Cyngor Gwynedd yn annog rhieni a gwarchodwyr plant oedran ysgol i wirio os ydynt yn gymwys am gymorth tuag at prynu dillad a deunyddiau dysgu ar gyfer y tymor newydd.

Mae costau’r flwyddyn academaidd newydd yn gallu achosi cur pen i nifer fawr o deuluoedd ac mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i atgoffa teuluoedd i wneud y mwyaf o’r cymorth sydd ar gael, sy’n cynnwys:

Cinio ysgol am ddim – mae pob plentyn oed cynradd yng Ngwynedd yn cael cinio ysgol am ddim; a chinio am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys mewn ysgolion uwchradd.

Cynllun Grant Hanfodion Ysgol– Gall teuluoedd fod â hawl i help ariannol o hyd at £200 ar gyfer pethau fel gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau; gweithgareddau ysgol fel cerddoriaeth, chwaraeon ac offer ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol; deunyddiau ar gyfer yr ystafell ddosbarth fel beiros, pensiliau a bagiau ysgol.

Gwisg ysgol – Yn ychwanegol i’r grantiau, mae nifer fawr o ysgolion yn cynnal clybiau neu banciau i ailgylchu a chyfnewid dillad ysgol sy’n agored i bob disgybl.

Cynnyrch mislif am ddim – Mae cynnyrch mislif 100% eco gyfeillgar i’w gael yn rhad ac am ddim i bawb sydd eu hangen yng ysgolion Gwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:

“Mae pawb eisiau i blant fwynhau eu blynyddoedd ysgol a nid ydym am i deuluoedd fod yn poeni am sut gallan nhw dalu am y dillad a’r offer bydd eu plant eu hangen er mwyn gwneud y mwyaf o bob cyfle ddaw.

“Gyda effeithiau’r argyfwng costau byw dal i gael eu teimlo yma yng Ngwynedd, dwi’n awyddus fod teuluoedd pob disgybl ysgol yn y sir yn ymwybodol o’r help sydd ar gael.

“Dwi’n hynod falch fod cinio ysgol wedi bod ar gael i bob plentyn oed cynradd yng Ngwynedd ers Medi 2023, a hynny flwyddyn gyfan cyn amserlen Llywodraeth Cymru. Gyda chyflwyno cinio am ddim i bawb, mae’n parhau i fod yn bwysig i deuluoedd sy’n cyrraedd y meini prawf i wneud cais er mwyn cael mynediad i’r Grant Hanfodion Ysgol. Mae hefyd yn golygu bod ysgolion yn cael mwy o arian.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Beca Brown: “Gellir gwneud cais am gymorth drwy wefan Cyngor Gwynedd, www.gwynedd.llyw.cymru/Ysgol. Os nad oes gennych fynediad i’r we gartref, cofiwch fod cyfrifiaduron a mynediad i’r we ar gael yn rhad ac am ddim ym mhob un o lyfrgelloedd y sir.

Bydd pob cais am gymorth yn cael ei drin yn sensitif a chyfrinachol ac os oes angen unrhyw help arnoch i wneud cais, os gwelwch yn dda siaradwch â’ch ysgol neu cysylltwch â Gwasanaeth Budd-daliadau’r Cyngor ar 01286 682689 neu e-bostio budd-daliadau@gwynedd.llyw.cymru

Un mesur yn unig ydi’r cymorth i ddisgyblion ysgol, mae gan Gyngor Gwynedd ystod eang o gynlluniau i gefnogi teuluoedd lleol i ymdopi ag effeithiau’r argyfwng costau byw, gan gynnwys cymorth gyda phrynu bwyd chael gwell rheolaeth ar gostau ynni cartref.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd i edrych ar y cymorth a gwybodaeth sydd ar gael i deuluoedd ar ein gwefan: www.gwynedd.llyw.cymru/CostauByw, ble mae gwybodaeth am gynlluniau rhannu bwyd am ddim a bwyd fforddiadwy o fewn y sir. Neu galwch heibio un o Hybiau Cymunedol Gwynedd, eto mae’r manylion ar wefan y Cyngor.”