Cyngor Gwynedd yn galw am safleoedd i'w datblygu neu i'w gwarchod

Dyddiad: 23/08/2024

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i gael gwybod am safleoedd posib allai fod yn addas i’w datblygu neu’u gwarchod, fel rhan o’r gwaith paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd.

Mae Cyngor Gwynedd yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri). Bydd y Cynllun yn ceisio cyfarch anghenion tai, cyflogaeth, cymdeithasol ac amgylcheddol trigolion Gwynedd am y cyfnod hyd at 2039.

 Prif bwrpas y Cynllun Datblygu Lleol yw rhoi arweiniad ar y mathau o ddatblygiadau sydd yn addas mewn lleoliadau penodol o fewn y sir.

 Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer yr Amgylchedd:

“Rydym yn awyddus i ddatblygwyr, tirfeddianwyr, Cynghorau Cymuned, ac unrhyw aelod arall o’r cyhoedd sydd â diddordeb yn sut rydym yn cynllunio ein cymunedau i’r dyfodol i roi gwybod am safleoedd maent yn awyddus i ni eu cynnwys yn y Cynllun.

 “Mae hwn yn gyfle i naill ai gyflwyno tir ar gyfer ei ddatblygu neu i amlygu tir y dylid ei warchod oherwydd ei werth amgylcheddol, ei dirwedd arbennig neu werth cymdeithasol. Rwyf yn galw ar bobl Gwynedd i wneud y mwyaf o’r cyfle.”

Mae modd i unrhyw un sydd yn dymuno cynnig safle i wneud hynny drwy ddefnyddio ffurflen ar lein neu i lawr lwytho copi papur oddi ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/SafleoeddPosib  

 Mae'r ffurflen ar-lein yn galluogi cynigwyr safleoedd i gynhyrchu a chyflwyno map, cael gwybodaeth am gyfyngiadau, gweld y canllaw ar gyfer cyflwyno safle ac uwch lwytho dogfennau perthnasol.

Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Datblygu Lleol ewch draw i wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/CDLlGwynedd