Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn dod i rym yng Nghaernarfon, Cricieth a Phwllheli

Dyddiad: 14/08/2024
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) yng Nghaernarfon, Pwllheli a Chricieth o ganlyniad i fathau cynyddol a newydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol. O ganlyniad i'r Gorchmynion newydd, o 7 Awst ymlaen, bydd gan yr Heddlu bwerau ychwanegol o fewn yr ardaloedd hyn i fynd i'r afael â materion neu niwsans benodol, gyda'r nod o wella bywydau trigolion ac ymwelwyr yr ardal.

Dyluniwyd y GDMC i dargedu:

  • Ymddygiad sy'n debygol o beri aflonyddwch, dychryn, niwsans neu boendod.
  • Ymdroi mewn cyflwr meddwol o ganlyniad i weithgaredd a ysgogwyd gan alcohol neu gyffuriau.
  • Yfed alcohol yn dilyn cais gan yr Heddlu i stopio yfed.

Bydd arwyddion yn cael eu gosod mewn ardaloedd allweddol i hysbysu trigolion ac ymwelwyr o'r cyfyngiadau newydd. Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol: "Mae cyflwyno'r Gorchmynion yn dilyn ymgynghoriad helaeth gyda'r gymuned a phartneriaid.

"Bydd y GDMC yn ddull pwysig i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond dim ond un rhan o'r datrysiad ydyn nhw. Bydd Cyngor Gwynedd yn parhau i weithio'n agos gydag ein partneriaid o Heddlu Gogledd Cymru a'r gymuned ehangach i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chefnogi pobl sy'n parchu’r gyfraith wrth iddynt fyw eu bywydau bob dydd.

"Ni allaf bwysleisio digon bod y dair ardal hon o Wynedd yn ardaloedd diogel a braf i fyw, gweithio ac ymweld â hwy a bod y mwyafrif helaeth o bobl yno erioed wedi bod yn rhan o unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ni fydd y Gorchmynion newydd yn stopio pobl rhag cymdeithasu a chael mynediad at a mwynhau mannau cyhoeddus.  

"Pwrpas y Gorchmynion yw ei gwneud yn haws i awdurdodau fynd i'r afael â'r lleiafrif bychan o bobl sy'n rhan o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan sicrhau bod ein cymunedau yn parhau i fod yn ardaloedd diogel, agored a bywiog y gall pawb eu mwynhau a theimlo'n ddiogel ynddynt." 

Dywedodd Prif Arolygydd Gwynedd, Steve Pawson "Mae'r timau plismona ar gyfer yr ardaloedd yn croesawu'r penderfyniad i roi GDMC ym Mhwllheli, Cricieth a Chaernarfon. ⁠Bydd y GDMC yn helpu'r timau plismona wrth ymdrin ag unigolion sy'n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol yn gyson ac yn cael effaith andwyol ar y gymuned.

Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i sicrhau bod Gwynedd yn le croesawgar i bawb ymweld, byw a gweithio ynddi.

Mae torri'r GDMC yn drosedd a bydd hyn yn cael ei drin drwy erlyniad drwy'r Llys Ynadon."