Holi barn pobl leol am gamerâu diogelwch ym Mhwllheli

Dyddiad: 09/08/2024

Mae Cyngor Gwynedd – mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pwllheli a Heddlu Gogledd Cymru – yn ystyried gosod camerâu Teledu Cylch Cyfyng (TCC) newydd mewn ardaloedd penodol o Bwllheli, ac eisiau clywed barn pobl leol.

Y bwriad fyddai gosod camerâu newydd yn ardaloedd Bro Cynan, Ffordd Caerdydd Isaf a'r cyffiniau gyda’r nod o wella canfyddiad pobl o ddiogelwch a lleihau troseddau yn y gymdogaeth. Mae hyn yn ychwanegol i’r camerâu sydd eisoes wedi eu lleoli yn ganol y dref.

Ond cyn symud ymlaen, mae swyddogion Cyngor Gwynedd a phartneriaid yn awyddus i glywed barn pobl leol. Cynhelir digwyddiad galw heibio yn Llyfrgell Pwllheli, nos Iau, 15 Awst rhwng 6-7.30pm. Bydd cyfle i aelodau o’r cyhoedd weld y cynlluniau, siarad gyda swyddogion  a dweud eu dweud.

Eglurodd Steven Edwards, Rheolwr TCC Cyngor Gwynedd: “Mae arian ar gael drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer adeiladu cymdogaethau gwydn, diogel ac iach, sy’n cynnwys gwelliannau i’r amgylchedd adeiledig a dulliau arloesol o atal troseddau.

“Ein bwriad gyda’r cynllun hwn fyddai gosod camerâu teledu cylch cyfyng ychwanegol, gyda'r nod o daclo trosedd ac ymddygiad gwrth gymdeithasol a gwneud i bobl deimlo’n fwy diogel.

“Os ydym yn bwrw mlaen efo’r cynllun, bydd y Cyngor yn dilyn camau caeth iawn i sicrhau ein bod yn parchu preifatrwydd pobl yn eu cartrefi eu hunain.

“Byddwn yn annog pobl i alw heibio’r sesiwn anffurfiol yn y llyfrgell. Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol ac eisiau holi cwestiwn neu ddatgan barn, mae croeso cynnes i chi gysylltu ar  cctvcyngorgwynedd@gwynedd.llyw.cymru.”

Cynhelir y digwyddiad ar y cyd â Chyngor Tref Pwllheli a Heddlu Gogledd Cymru yn Llyfrgell Pwllheli, Neuadd Dwyfor, Stryd Penlan; 15/08/2024, 6-7.30pm.