Mae arolwg busnes yn anelu i adeiladu ar gynnig gwerth cymdeithasol y rhanbarth

Dyddiad: 05/08/2024
Datganiad i'r wasg- Uchelgais Gogledd Cymru 

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn galw ar fusnesau o fewn ei rhanbarth i ymateb i arolwg sy'n canolbwyntio ar werth cymdeithasol, fydd yn ei helpu i ddeall beth yw ymwybyddiaeth, safbwyntiau ac arferion cyflenwyr yn well.

 

Mae gwerth cymdeithasol yn bwnc cynyddol bwysig ar gyfer pob sector a rhanddeiliaid. Mae'n cyfeirio at yr effaith gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sydd gan sefydliadau ar gymunedau lleol a'r gymdeithas ehangach. Mae'r cysyniad yn annog ymgorffori cyfraniad cadarnhaol i les pobl, ochr yn ochr â gweithgareddau busnes dyddiol moesegol, gydag ymdrech wedi'i ganolbwyntio ar wella materion lleol a chynnal pileri y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn eu nodau a strategaethau.

 

Bydd ymatebion i'r arolwg yn galluogi i Uchelgais Gogledd Cymru fesur dealltwriaeth a safbwyntiau, gweld beth yw'r rhwystrau gweithredu ac adnabod yr arferion gorau. Bydd y canlyniadau yn llywio rhaglen gefnogaeth gydlynus ar gyfer cyflenwyr a hyrwyddo gwerth cymdeithasol yn y rhanbarth dan brosiect cyffrous a arweinid gan y sefydliad, wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

Bydd canfyddiadau hefyd yn hysbysu dull Uchelgais Gogledd Cymru ei hun i bwysleisio gwerth cymdeithasol o fewn ei brosesau caffael wedi'u adnewyddu. Bydd hyn wrth iddynt barhau i fuddsoddi ym mhortffolio prosiect y Cynllun Twf, sy'n anelu at greu cyfanswm buddsoddiad o dros £1 biliwn ar gyfer Gogledd Cymru, gyda dros 4000 o swyddi newydd a chynnydd GVA o £2.4 biliwn erbyn 2036.


Mae'r holiadur cyfrinachol ar agor tan 5:00pm ar ddydd Gwener 6 Medi a gellir cael gafael arno drwy: https://forms.gle/15rYTKbB6zhPhLom8

Dywedodd Daniel Lewis, Swyddog Effaith Ranbarthol a Gwerth Cymdeithasol, Uchelgais Gogledd Cymru:

"Wrth ystyried yr heriau amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol sylweddol yr ydym yn dod ar eu traws, mae gwerth cymdeithasol wedi dod yn bwysicach nag erioed. Mae hefyd ymwybyddiaeth gynyddol bod gan sefydliadau sy'n cael eu gyrru â phwrpas ac yn cyflawni effaith amgylcheddol a chymdeithasol gadarnhaol fantais gystadleuol gynaliadwy yn aml; mae rhanddeiliaid mewnol ac allanol rwan yn anelu'n weithredol at werth cymdeithasol wrth wneud penderfyniadau ac yn eu defnydd. Mae'n rym pwerus ar gyfer newid ac rydym wedi ein cyffroi gyda’r cyfle i gefnogi sefydliadau'r rhanbarth i gyflawni buddiannau, mesur eu heffaith a gwneud y mwyaf o'u cynnig.

 

"Byddwn yn annog pob cyflenwr i ymateb i'r arolwg. Nid oes atebion cywir nac anghywir, hoffwn glywed gan ehangder o fusnesau, y rheini sydd ond yn cychwyn edrych ar y buddiannau o gyflawni ar werth cymdeithasol, i'r rheini sy'n gweld gwobrau gwirioneddol o'u hymrwymiadau."


Gall gyflenwyr hefyd gysylltu â Daniel Lewis am fwy o wybodaeth neu drafod ffyrdd o gydweithio ar ⁠DanielLewis@uchelgaisgogledd.cymru

DIWEDD

Ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau cysylltwch â: Bethan Airey, Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol, Uchelgais Gogledd Cymru ar 07385 223271 / ⁠bethanangharadairey@uchelgaisgogledd.cymru