Prosiect lliniaru llifogydd gwerth miliynau o bunnoedd i Feirionnydd

Dyddiad: 09/08/2024
Mae gwaith sylweddol i amddiffyn ardal Abermaw rhag llifogydd i fod i gychwyn yn yr hydref, diolch i arian gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.

 

Mae cam adeiladu Cynllun Lliniaru Llifogydd Gerddi Cae Glas (Viaduct Gardens) yn Abermaw i fod i gychwyn ym mis Hydref 2024, ac fe ragwelir y bydd yn cael ei gwblhau yng Ngwanwyn 2026. Yn ddiweddar, ysgrifennodd Cyngor Gwynedd at drigolion lleol yn rhoi diweddariad iddynt ar y cynlluniau. 

 

Mae'r cynllun £3.2 miliwn yn hanfodol i reoli'r risg llifogydd presennol ac yn y dyfodol sy'n dod o'r môr a dŵr wyneb yn ardal yr harbwr.

 

Mae'r gwaith yn cael ei ariannu drwy Raglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru a Chynllun Rheoli Asedau Cyngor Gwynedd.

 

Bydd y gwaith yn cynnwys:

- Atgyweirio, cryfhau a chodi uchder rhan o oddeutu 60m o wal fôr. 

- Codi wal risiog newydd a llifddor/rhwystr yn y rhan y tu ôl i'r brif wal fôr.

- Gosod rhwydwaith draenio newydd i reoli dŵr wyneb a gorlifo yn y rhan y tu ôl i'r wal risiog a'r llifddorau.

- Gosod pibell ollyngfa dŵr wyneb newydd sy'n ymwthio allan o'r wal fôr i'r harbwr.

⁠- Tirlunio'r gerddi.   

 

Bydd y gwaith mawr yn cael ei reoli gan Adran Ymgynghoriaeth Cyngor Gwynedd (YGC) ac mae'r contractwyr, Griffiths, wedi'u penodi i wneud y gwaith ar y safle.

Meddai'r Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Cyngor Gwynedd, Aelod Cabinet ar gyfer yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth: "Mae'r buddsoddiad hwn mewn amddiffynfeydd llifogydd yn newyddion da ar gyfer y gymuned leol ac ardal ehangach Meirionydd gan y bydd cartrefi a busnesau yn cael eu gwarchod yn well ar gyfer y dyfodol. Rwyf yn falch bod Cyngor Gwynedd wedi medru buddsoddi yn y prosiect drwy ein Cynllun Rheoli Asedau.

"Mae cynnydd yn lefel y môr a chynnydd mewn difrod gan stormydd wir yn broblem ar gyfer ardaloedd arfordirol megis Gwynedd yn sgil newid yn yr hinsawdd ac rwy'n falch o weld bod y paratoadau ar gyfer y gwaith hwn yn mynd yn dda.

"Bydd y gwaith yn peri peth niwsans dros dro i drigolion a busnesau lleol gyda chynnydd mewn traffig a bydd elfennau o'r gwaith yn swnllyd ar brydiau. Rwyf yn ymddiheuro am yr anghyfleustra hwn a diolchaf i bobl ymlaen llaw am eu hamynedd.  Dymunaf sicrhau pobl y gwneir pob ymdrech i leihau'r aflonyddwch."

Meddai Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Cabinet Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru yn falch o fod wedi ariannu 85% o gostau adeiladu cynllun lliniaru llifogydd Gerddi Cae Glas. 

 

"Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd 31 eiddo, ynghyd â chymuned ehangach Abermaw, yn elwa drwy roi sicrwydd iddynt y byddant yn cael eu hamddiffyn rhag llifogydd posib a lleihau'r risg o gau'r A496. 

 

"Rydym yn gwybod nad yw newid hinsawdd yn mynd i ddiflannu, ac mae eisoes yn effeithio ar fywydau miliynau o bobl ar draws y byd; mae ein Hamddiffynfa Rheoli Risg Arfordirol £291m yn helpu i amddiffyn cymunedau ac eiddo ledled Cymru sy'n cael eu heffeithio gan y cynnydd mewn llifogydd yn sgil newid yn yr hinsawdd."

 

Bydd diweddariadau yn cael eu postio ar wefan y prosiect https://deabermaw.ygc.cymru/