Ysgol Treferthyr newydd yn agor ei drysau i blant Cricieth

Dyddiad: 29/08/2024

Bydd Ysgol Treferthyr ar ei newydd wedd yn agor ei drysau am y tro cyntaf ar ddechrau tymor yr hydref, diolch i brosiect gwerth £8.8 miliwn gan Gyngor Gwynedd i godi ysgol  newydd, eco-gyfeillgar fydd yn darparu amgylchedd ddysgu o’r radd flaenaf i blant Cricieth a’r cylch.  

 

Mae holl deulu Ysgol Treferthyr – yn ddysgwyr, rhieni, staff a llywodraethwyr – wedi bod yn edrych ymlaen yn eiddgar, wedi iddynt ffarwelio â hen adeilad yr ysgol oedd wedi cyrraedd diwedd ei oes ddiwedd tymor yr haf.   

 

Mae gan yr Ysgol Treferthyr newydd adnoddau o’r radd flaenaf sy’n cwrdd ag anghenion addysg  a Chwricwlwm i Gymru, megis dosbarthiadau aml-bwrpas, neuadd bwrpasol ar gyfer cynnal gweithgareddau amrywiol gan yr ysgol a’r gymuned, yn ogystal a caeau chwarae a gofod aml-chwaraeon.  

 

Bydd yr adeilad newydd hefyd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer darpariaeth  blynyddoedd cynnar a gofal plant fydd yn cynnig addysg, chwarae a gofal plant i blant cyn-oed ysgol yn ogystal â chlwb ar ôl ysgol i blant oed cynradd. Bydd Canolfan ABC ar safle Ysgol Treferthyr hefyd, yn cynnig gofod i asesu plant gydag anghenion dysgu ychwanegol. 

 

Roedd amddiffyn yr amgylchedd yn flaenoriaeth drwy gydol y broses o gynllunio ac adeiladu’r ysgol eco-gyfeillgar hon, gyda thechnolegau gwyrdd fel pympiau gwres, ffynhonnell aer a phaneli solar yn pweru'r adeilad, ynghyd â deunyddiau cynaliadwy er mwyn cefnogir egwyddorion di-garbon. Mae'r ysgol hefyd yn cynnwys pwyntiau gwefru ceir trydan a system batri ar y safle i storio a defnyddio’r pŵer a gynhyrchir. 

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Treferthyr, Dylan Roberts: “Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn arw tuag at y cyfnod cyffrous nesaf wrth i ni symud i safle newydd Ysgol Treferthyr. Mae adnoddau gwych yma sydd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r disgyblion yn edrych ymlaen i ymgartrefu yn eu dosbarthiadau newydd sydd wedi eu henwi ar ôl afonydd lleol yn ardal Eifionydd.  

  

“Rydym fel ysgol yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at gael yr ysgol yn barod. Rydym yn hynod lwcus o gael adeilad mor arbennig ar gyfer ein hysgol. Edrychwn ymlaen i gael darparu addysg a chreu profiadau byth gofiadwy i blant Ysgol Treferthyr ar ein safle newydd.” 

 

Meddai’r Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg: “Rydw i’n siŵr fod disgyblion Ysgol Treferthyr a’u teuluoedd yn edrych ymlaen yn fawr i gael ymgartrefu yn eu hysgol newydd. Roedd yr hen adeilad wedi dyddio a bellach ddim yn addas i bwrpas, felly dwi’n rhannu cyffro’r gymuned leol am yr holl adnoddau modern sydd yn yr ysgol newydd, a’r cyfleon addysgol gwych fydd ar gael i’r disgyblion. 

 

“Dwi’n ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio’n galed er mwyn cyrraedd y garreg filltir yma, a dymunaf y gorau i’r plant a’r holl staff yn eu hysgol newydd.”  

 

Meddai Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd Cabinet Dros Addysg Llywodraeth Cymru: "Mae'n wych ein bod wedi gallu cefnogi'r ysgol newydd hon. Mae'r defnydd o dechnoleg werdd yn bwysig i mi oherwydd drwy adeiladu ysgolion cynaliadwy rydyn ni’n darparu ar gyfer y dyfodol. 

 

"O’u cyfuno ag addysgu a dysgu rhagorol, gallai’r cyfleusterau o'r radd flaenaf hyn helpu i sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau bosibl. Rwy'n gobeithio y byddant yn helpu'r dysgwyr a'r gymuned ehangach i ffynnu." 

 

Ariannwyd yr ysgol newydd ar y cyd gan Gyngor Gwynedd, Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Rhaglenni Gyfalaf Cynnig Gofal Plant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol, Llywodraeth Cymru.  

 

Y contractwyr fu’n gyfrifol am wireddu’r weledigaeth ar gyfer yr ysgol oedd Wynne Construction, a dywedodd Andy Lea, Rheolwr y Prosiect  “Mae’r tîm safle wedi gwneud gwaith ffantastig i gael Ysgol Treferthyr yn barod mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, ac rydym yn gobeithio bydd y dysgwyr a’r staff yn mwynhau’r ysgol fodern ac ysbrydoledig yma. 

 

“Mae hi wedi bod yn wych i weithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd unwaith eto yn ogystal a’r gadwyn gyflenwi a’r gymuned leol ble rydym wedi ymdrechu i adael etifeddiaeth fydd yn parhau drwy gynnig cyfleoedd gwaith ac hyfforddiant.” 

 

Fideo – Cyfle i gael cip ar yr Ysgol Treferthyr newydd, cyn i’r plant a staff yr ysgol symud i fewn: https://youtu.be/Kx9nbkL6_pk?si=wCVqhgMuQpx47HDq  

Nodiadau 

Cynhelir agoriad swyddogol o Ysgol Treferthyr yn ystod tymor yr hydref pryd bydd cyfle i dynnu lluniau o ddisgyblion, staff a llywodraethwyr Treferthyr yn eu hysgol newydd.