Arddangosfeydd newydd yn Storiel

Dyddiad: 06/02/2023

21 Ionawr – 25 Mawrth

LAURENCE GANE

anfodlonrwydd 

Casgliad o ffoto-destunau o gyfnod clo 2021 yn cynnig rhai agweddu sardonig/eironig/dystopaidd ar ddelweddau a gymerwyd o ddiwylliant poblogaidd, teledu a bywyd y ddinas. Gyda bygythiadau tywyll i’n dyfodol a’n bodolaeth fel rhywogaeth, mae’r delweddau hyn yn cynnig symptomau o’n cyfyng-gyngor.


Mae Laurence Gane wedi gweithio mewn ffilm, ffotograffiaeth, theatr, cerddoriaeth, athroniaeth ac astudiaethau diwylliannol. Roedd yn un o sylfaenwyr y London Film-makers' Co-Op.

Mae ei lyfr poblogaidd 'Introducing Nietzsche' bellach ar ei bedwerydd argraffiad.

Mae'r casgliad hwn o ffoto-destunau o gyfnod clo 2021 yn cynnig rhai agweddau sardonig/eironig/dystopaidd ar ddelweddau a gymerwyd o ddiwylliant poblogaidd, teledu a bywyd y ddinas.

Mae datblygiad technoleg ddigidol wedi chwalu ein perthnasoedd cymdeithasol, ond erbyn hyn ymddengys mai hyn yw'r lleiaf o’n pryderon.

Mae pandemigau, rhyfel a newid hinsawdd yn peri bygythiadau llawer tywyllach i’n dyfodol a’n bodolaeth fel rhywogaeth, gan achosi pryder, colli cwsg ac yn y blaen.

Mae'r delweddau hyn yn darparu symptomau o'n cyfyng-gyngor.

Tynnwyd pob delwedd gyda ffôn symudol gan ddefnyddio'r golau oedd ar gael - dim golygu digidol.

//////////////////

21 Ionawr – 25 Mawrth

Ysbrydoli | Ymateb

Dyma waith celf gan ddeunaw artist gwahanol o gasgliad celf Prifysgol Bangor. Maent yn cynrychioli peth o’r amrywiol fath o baentiadau sydd yn y casgliad. O dirluniau ffigurol a phortreadau i fywyd llonydd a mynegiant haniaethol, gwelwch pa waith sydd yn eich ysbrydoli chi.

Gwahoddwyd arlunwyr ifanc hefyd i gael eu hysbrydoli ac i ymateb i’r dewisiad yma o baentiadau. Caiff eu gwaith celf hwy eu harddangos yma gyda’r lluniau gwreiddiol yn ystod hanner olaf yr arddangosfa.

Casgliad Celf Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn geidwad i nifer o gasgliadau amgueddfa pwysig a ffurfiwyd pan sefydlwyd y Brifysgol yn 1884. Mae’r casgliadau yn amrywiol yn eu hanian gan gynnwys celf gain. Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd gan y Times Higher Education yn 2005, mae casgliad celf Prifysgol Bangor yn y deg uchaf o’r goreuon gan Brifysgolion ym Mhrydain, ynghyd a’r Barber Institute, Birmingham a chasgliad Whitworth, Manceinion.

Mae’r casgliad celf yn cynnwys tua 650 o weithiau yn dyddio o’r 17eg i’r 21ain ganrif. Ynddo mae cynrychiolaeth dda o arlunwyr o Gymru gan gynnwys Brenda Chamberlain, David Jones, Edward Povey, Peter Prendergast, Gwilym Pritchard, Ceri Richards, Will Roberts, Evan Walters, Catrin Webster, Claudia Williams a Kyffin Williams. Cynnwys y casgliad hefyd baentiadau gwerthfawr gan arlunwyr Prydeinig ag Ewropeaidd. Rhai o’r uchafbwyntiau yw cymynrodd William Evans sy’n cynnwys paentiadau gan arlunwyr Prydeinig megis Paul Nash ac Edward Wadsworth a chyfres o dirluniau o ogledd Cymru gan Frederick William Hayes. Mae’r casgliad yn gyfuniad o roddion, cymynroddion a phryniant.

Mae’r casgliad yn creu ased artistig a diwylliannol i’r Brifysgol ac i ogledd Cymru gyfan. Caiff rhai o’r gweithiau eu dangos mewn amryw o ofodau cyhoeddus oddi fewn adeiladau’r Brifysgol lle bydd staff a myfyrwyr yn gallu eu mwynhau. Bydd teithiau tywys yn cael eu rhaglennu yn y gwanwyn a’r hydref.

Brenda Chamberlain  •  A.S.Craig  •  Anthony Goble  •  Frederick Hayes  •  Robert Hunter 

Selwyn Jones  •  David Kinmont  •  Winifred Nicholson  •  Wendy Noel  •  Edward Povey

Thomas Roland Rathmell  •  Brian Rees  •  William Selwyn  •  Andrew Smith

 Edward Wadsworth  •  Acwila Williams  •  Claudia Williams  •  David  Woodford

/////////////////


YNYSGAIN

Cynnwys yr oriel hon ddetholiad o ddodrefn ag eitemau cysylltiol o gasgliad Storiel gan roi cyfle i weld rhai eitemau o’r casgliad wrth gefn nad yw yn arferol ar arddangos.


Mae’r dodrefn yma yn bennaf o Ynysgain Uchaf ger Cricieth, Dwyfor. Gadawyd y dodrefn o Ynysgain i’r Amgueddfa gan y Fns. Anne Eaden, cyfeilles a chymdeithes i’r Fns. Dorothea Pughe-Jones, yr olaf o deulu’r Jonesiaid i fyw yn Ynysgain. Bu i’r teulu drigo yno ers 1669, ond mae’r tŷ ei hun ychydig yn hŷn gan fod cofnod o guddio aur yn un o’r muriau yn 1646 yn ystod y Rhyfel Cartref.


Mae’r darnau yn gymysgfa o ddodrefn derw traddodiadol sy’n nodweddiadol o nifer o ffermdai'r ardal a darnau egsotig o ddylanwad arddull Ewropeaidd. Mae hyn yn adlewyrchu cyfoeth y teulu a’u gallu i brynu dodrefn o bell. Cafodd nifer o ddarnau eu comisiynu yn lleol gan grefftwyr lleol i gwrdd â’u hanghenion.


Mae’r casgliad yma’n arwyddocaol wrth i fywydau’r teulu Jones fod ynghlwm ar eitemau gyda phob darn yn rhan o draddodiad a hanes. O’r dresel Cymreig traddodiadol i flwch y Beibl o’r 1700au, dywed y casgliad hwn ei hanes ei hun o fywyd cefn gwlad Cymru drwy’r cenedlaethau.


Cewch weld mwy o ddodrefn yn oriel Ein Casgliadau ac oriel Bywyd a Gwaith yr amgueddfa.


Ganed Dorothea Pughe-Jones (Ynysgain) yn 1875 a graddiodd o Brifysgol Rhydychen. Roedd yn ysgrifennwr dawnus gan ysgrifennu yn gryno ‘History of Wales’ yn 1901, ag ennill gwobr Eisteddfod am hyn. Yn 1901 roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Pleidlais i Ferched Bangor a’r Cyffiniau. Ymunodd â’r VAD (Voluntary Aid Detachment) Mintai Cymorth Wirfoddol o 1914-1919 i ddarparu cymorth meddygol yn ystod y Rhyfel, gan wirfoddoli yn Ffrainc. Yn ddiweddarach cafodd ei gwobrwyo gyda’r MBE am ei gwasanaeth.

//////////

4 Chwefror - 15 Ebrill     

Golwg ar Orllewin Affrica o Gymru

Curadwyd yr arddangosfa hon gan Dr Ffion Mair Jones o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (Y Ganolfan Geltaidd) mewn cydweithrediad â’r artist Mfikela Jean Samuel a Storiel, Bangor. Man cychwyn y cydweithio rhwng y ddau brif chwaraewr oedd gweithdy a drefnwyd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyfoethogi amrywedd cyfranwyr i’r Bywgraffiadur Cymreig. Y mae’r arddangosfa’n rhan o brosiect a ariennir gan Rwydwaith Arloesi Cymru (RhAC), mewn partneriaeth â’r Amgueddfa Forwrol Genedlaethol, Greenwich. Archwilia’r prosiect adroddiad ynghylch Gorllewin Affrica a gynhyrchwyd gan Thomas Pennant fel rhan o’i waith anghyhoeddedig, ‘Outlines of the Globe’.

Gallwch ddarganfod rhagor ynghylch gwaith Mfikela Jean Samuel at https://mfikelajeansamuel.org

Am ragor o wybodaeth ynghylch bywyd a gwaith Thomas Pennant ewch i https://curioustravellers.ac.uk