Buddsoddiad o £3 miliwn i uwchraddio Ysgol Hirael

Dyddiad: 15/02/2023

Mae Ysgol Hirael, Bangor gam yn agosach at weld buddsoddiad o £3 miliwn i wella cyfleusterau ac uwch-raddio’r adeilad a’r amgylchedd ddysgu, wedi i Gabinet Cyngor Gwynedd dderbyn argymhelliad i neilltuo arian o’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

 

Bydd Cyngor Gwynedd nawr yn llunio achos fusnes i Lywodraeth Cymru er mwyn rhyddhau 65% o gost y prosiect, sef £1,950,000; gyda Chyngor Gwynedd yn cyfrannu  £1,050,000 o arian cyfatebol.

 

Mae Ysgol Hirael wrth galon dinas Bangor ac yn rhoi addysg i bron 200 o blant rhwng 3 ac 11 oed ond yn anffodus mae cyflwr yr ysgol wedi dirywio ac nid yw’r cyflwr cystal ag ysgolion eraill yn yr ardal.

 

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Rydw i’n hynod falch ein bod wedi gallu symud yn agosach at wella adeilad Ysgol Hirael wedi rhywfaint o oedi yng ngallu’r Cyngor i fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion yn dilyn y pandemig.

 

“Bydd y buddsoddiad yma nid yn unig yn gwneud yr ysgol yn lle llawer brafiach i holl deulu’r ysgol – gan gynnwys y disgyblion, holl staff a’r gymuned ehangach – ond bydd hefyd yn golygu llai o wariant ar gynnal a chadw’r adeilad i’r dyfodol. Bydd yn destun dathlu y bydd yr ysgol yn fwy eco gyfeillgar yn sgil y buddsoddiad, gan y bydd yn defnyddio llai o ynni ac yn cynhyrchu llai o garbon.

 

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweld plant ardal Bangor yn elwa o’r buddsoddiad yn adeiladau’r ysgol, ac yn cael amgylchedd ddysgu fydd yn eu galluogi  i barhau i ffynnu yn addysgol ac yn gymdeithasol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nigel Pickavance, yr Aelod lleol dros yr ardal: “Rwy’n croesawu’r newyddion da yma gan fod yr hen adeilad wedi dyddio ac yn dadfeilio.

 

“Mae fy nhair merch wedi bod yn ddisgyblion yn Ysgol Hirael a gallaf dystio bydd y buddsoddiad newydd yn gwella safon bywyd ysgol i'r disgyblion, yn cynnig cyfleoedd newydd iddynt a gwell profiadau yn ystod oriau ysgol a thu hwnt.”

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Dylan Fernley, aelod dros yr ardal: “Mae cenedlaethau o blant lleol wedi cael eu haddysgu yn Ysgol Hirael ac mae’r adnodd yn annwyl iawn i’r gymuned. Rydw i’n edrych ymlaen i weld yr ysgol pan bydd y gwaith wedi ei gwblhau ac i weld yr effaith bositif y bydd yn ei gael ar blant y ddinas.”

 

Nodiadau

 

Bydd Adran Addysg Cyngor Gwynedd yn llunio achos fusnes i Lywodraeth Cymru i ryddhau’r arian. Os yn llwyddiannus, y gobaith yw bydd y gwaith yn dechrau yn  y flwyddyn addysgol newydd.