Buddsoddiad yn Llyfrgell Penygroes a Petha Penygroes

Dyddiad: 21/02/2023
Llyfrgell_Library 1
Mae gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud i Lyfrgell Penygroes gan Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd i greu gofod atyniadol, cyfoes a chyfforddus i ddefnyddwyr, diolch i grant o £60,000 gan Gronfa Cyfalaf Trawsnewid Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.

Mae Llyfrgell Penygroes yn cael defnydd da gan drigolion y Dyffryn gyda mwy na 14,000 o fenthyciadau llyfrau yn cael eu gwneud yn 2021/2022. Mae hefyd yn ganolbwynt cymunedol pwysig i bobl leol lle gellir galw draw i gymdeithasu, i bori drwy’r llyfrau a defnyddio’r cyfrifiaduron.   

Crëwyd gofod gwell i arddangos llyfrau ac ail-leolwyd yr adran cyfrifiaduron cyhoeddus. Trawsnewidiwyd yr Adran Blant hefyd a bellach mae llun a dyfyniad o gyfres Rwdlan – o waith Angharad Tomos, un o awduron amlycaf y Dyffryn – yn cael lle haeddiannol ar y wal. 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd: “Bydd y Llyfrgell newydd yn gallu rhoi nifer o gynigion newydd i’r defnyddwyr, sef datblygu amser stori a gweithgarwch rheolaidd wythnosol i blant. Bydd sesiynau VR yn dechrau hefyd i gyflwyno pobl ifanc ac oedolion i botensial technoleg rhithwir. Mae sgrin, offer pen a chamera 360 wedi eu prynu fel rhan o’r grant er mwyn cyflwyno technoleg rhithwir digidol i’n defnyddwyr ac ymgymryd â phrosiectau creu cynnwys yn y dyfodol.

“Mae’n braf iawn gweld adnewyddiad i Lyfrgell Penygroes i wella’r cyfleusterau, gan fod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio a’i werthfawrogi gan drigolion y Dyffryn.”

Fel rhan o’r gwelliannau, mae yna wasanaeth newydd sbon arall ar gael o Lyfrgell Penygroes, sef Petha Penygroes.  Mae ‘Petha’ yn brosiect newydd yng Ngwynedd sydd yn ceisio sefydlu Llyfrgell y Pethau mewn tair cymuned ledled y sir, sef Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Bro Ffestiniog, mewn cydweithrediad rhwng Benthyg Cymru, Dolan a Chyngor Gwynedd yn dilyn cais llwyddiannus i Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru.

Mae’r syniad tu ôl i Petha yn syml – mae modd benthyg a rhannu pethau bob dydd yn hytrach na phrynu, a thrwy hyn gall pobl arbed arian, arbed lle yn y cartref, lleihau gwastraff a lleihau ôl-troed carbon.

Dywedodd Catrin Wager, Swyddog Datblygu Gogledd & Gorllewin Cymru Benthyg: “Mae Benthyg Cymru yn fudiad cenedlaethol sydd yn cefnogi cymunedau i sefydlu Llyfrgelloedd Petha a da ni'n falch iawn o weld ail lyfrgell Petha, dan arweiniad Dolan, yn agor ym Mhenygroes. 

“Mae'n wych gweld y rhwydwaith o lyfrgelloedd Petha yn tyfu o amgylch Cymru a diolch i Dolan a Chyngor Gwynedd am eu gwaith caled yn gwireddu hyn.  Mae Petha yn brosiect arloesol gan ei fod yn cyd-leoli Llyfrgell Pethau mewn llyfrgell draddodiadol, ac yn dangos sut y gall Awdurdodau Lleol bartneru gyda chymunedau i weithredu dros drigolion, a dros ein planed."

Dywedodd Meleri Davies o Partneriaeth Ogwen, un o aelodau Dolan: “Mae Petha yn cynnig gwasanaeth benthyg eitemau bob dydd am ffi bychan i aelodau a theganau am ddim i blant.  Gall yr eitemau hyn fod yn beiriannau DIY, peiriant gwnïo, offer campio ac ati. Hynny yw, y pethau defnyddiol hynny mae pobl eisiau ond ddim eu hangen yn eu cartref trwy’r amser. Mae Partneriaeth Ogwen fel rhan o Dolan, yn falch iawn i fod yn rhan o brosiect cyffrous ac amserol a fydd yn cyfrannu at yr agenda trechu tlodi a chynaliadwyedd.”

Ychwanegodd Ben Gregory o Yr Orsaf, Penygroes: “Rydym wrth ein bodd yn bod yn rhan o gynllun Petha, gan y bydd y cynllun yma yn ychwanegiad a fydd yn cydweddu’n dda iawn gyda phrosiectau eraill sy’n digwydd yn Yr Orsaf, Penygroes fel y caffis trwsio, sydd â ffocws ar fyw mewn modd amgylcheddol gyfrifol.”

Mae oriau agor Llyfrgell Penygroes, yn ogystal a gwybodaeth am holl wasanaethau llyfrgell Gwynedd, ar gael ar wefan y Cyngor. Ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/llyfrgell  Neu dilynwch Llyfrgelloedd Gwynedd Libraries ar gyfryngau cymdeithasol.

Lluniau

1: Disgyblion o Ysgol Bro Lleu yn lansiad Petha yn Llyfrgell Penygroes.

2: Ben Gregory - Yr Orsaf Penygroes, Nia Gruffydd - Rheolwr Llyfrgelloedd Gwynedd, Meleri Davies - Partneriaeth Ogwen, y Cynghorydd Elwyn Jones - Cadeirydd Cyngor Gwynedd.