Cyngor yn prynu eiddo i fynd i'r afael â'r argyfwng tai

Dyddiad: 22/02/2023

Fel rhan o’i Gynllun Gweithredu Tai, mae Cyngor Gwynedd yn prynu eiddo i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a chynyddu mynediad pobl Gwynedd at dai fforddiadwy.  

 

Dechreuodd Cyngor Gwynedd ar y cynllun y llynedd, ac erbyn mis Ionawr 2023 mae wyth eiddo wedi’u prynu mewn cymunedau ledled Gwynedd, gan gynnwys mewn ardaloedd lle mae nifer uchel o drigolion lleol yn cael hi’n anodd cael mynediad at dai fforddiadwy. 

 

Bwriad y Cyngor yw gosod y tai ar rent canolraddol i unigolion â chysylltiad lleol ac sydd mewn angen am dŷ o’r fath.  
 
Hyd yn hyn mae’r Cyngor wedi prynu tai yn Abersoch, Blaenau Ffestiniog, Llanbedr, Llanberis, Nefyn, Bangor a Phwllheli, gyda phum eiddo arall yn y broses o gael eu prynu.     

 

Daw’r cynllun hwn, sy’n cynnwys prynu eiddo’n uniongyrchol gan werthwyr ac o’r farchnad agored, mewn ymateb i’r argyfwng tai yn y Sir. Mae’n ffurfio rhan o Gynllun Gweithredu Tai i sicrhau fod pobl Gwynedd yn cael mynediad at dai addas o safon, sy’n fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain.   

 

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y Cyngor yn ystyried prynu eiddo ar draws Gwynedd sy'n cwrdd â meini prawf arbennig, gan gynnwys cwrdd ag anghenion ardaloedd penodol, gwerth a chyflwr yr eiddo.   

 

Dywedodd perchennog tŷ o Ben Llŷn sy’n gwerthu’n uniongyrchol i Gyngor Gwynedd: “Yn gyntaf, hoffwn ddatgan balchder bod yr eiddo am gael ei ddefnyddio i gartrefu rhywun lleol. Mae’r gymuned yma’n dioddef o ddiffyg tai rhent fforddiadwy ac mae hwn yn gyfle gwych i sicrhau bod yr eiddo am fynd i rywun sydd wir ei angen.

 

“Hefyd, mae’r cynllun hwn yn golygu y bydd y tŷ yn cael ei ddefnyddio er budd y gymuned, yn lle mynd yn ail gartref a gwaethygu’r sefyllfa dai ym Mhen Llŷn.
   
“Mae’n golygu y gall yr eiddo helpu teulu neu unigolyn yn y tymor byr, a sicrhau bod y gymuned yn gallu parhau i ffynnu i’r dyfodol.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet dros Dai ac Eiddo Cyngor Gwynedd: “Mae’n ffaith hysbys erbyn hyn ein bod mewn argyfwng tai. Mae prinder difrifol o dai fforddiadwy i bobl leol ac mae’r rhestr o bobl sy’n aros am dai cymdeithasol yn parhau i dyfu. Mae’r sefyllfa bellach yn anfoesol.

 

“Trwy’r Cynllun Gweithredu Tai, rydym wrthi’n adeiladu mwy o dai fforddiadwy, ond bydd hyn yn cymryd amser. Mae prynu tai preifat yn caniatáu i ni gynnig datrysiad rŵan.

 

“Nid yn unig yr ydyn ni’n helpu pobl sydd angen cartref, ond rydym yn cynnig opsiwn arall i bobl sy’n poeni am ddyfodol eu heiddo wrth werthu ar y farchnad agored. Bydd hyn yn cadw’r tŷ yn nwylo lleol, yn hytrach na chael ei droi yn llety gwyliau neu Airbnb arall.” 

 

Mae hyn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai gwerth £77 miliwn gan Gyngor Gwynedd, sy'n cynnwys dros 30 o gynlluniau fydd yn darparu cartrefi o safon i bobl y Sir dros y pum mlynedd nesaf. 

 

Mae Cyngor Gwynedd yn annog unrhyw un sydd angen tŷ fforddiadwy i gofrestru gyda Tai Teg.