Cynllun Arbedion i warchod gwasanaethau allweddol Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 08/02/2023

Ar 14 Chwefror, bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried cyfres o arbedion effeithlonrwydd gwerth £6.4 miliwn er mwyn ceisio osgoi torri gwasanaethau lleol yn ystod 2023/24.

 

Er mwyn ceisio lleihau’r effaith cymaint a phosib ar wasanaethau, mae’r Cyngor wedi adnabod nifer o ffyrdd newydd a mwy effeithlon o’u darparu.

 

Fel pob cyngor arall ar draws y wlad, mae Cyngor Gwynedd yn wynebu pwysau ariannol digynsail ar gyllidebau oherwydd ffactorau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae pris popeth sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau – fel ynni, nwyddau a staffio – wedi chwyddo 11% ers yr hydref, sef cost ychwanegol o oddeutu £22 miliwn i’r Cyngor. Ar yr un pryd mae’r galw am wasanaethau fel digartrefedd wedi saethu i fyny yn sgil yr argyfwng costau byw.

 

Er y bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn cynnydd o £14 miliwn ar gyfer 2023/24 gan Lywodraeth Cymru, mae’r setliad hwn ymysg y gwaethaf mewn termau real i’r sefydliad ei dderbyn erioed ac nid yw’n agos i fod yn ddigon i gwrdd â’r costau ychwanegol.

 

Oni bai fod newid yn genedlaethol, nid oes disgwyl i’r wasgfa hon lacio am beth amser – mae’r  Cyngor yn wynebu bwlch ariannol eleni o £7 miliwn a bwlch pellach o hyd at £12.4 miliwn rhwng 2023/24 a 2024/25.

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Fel awdurdodau lleol ar draws y wlad, rydym yn gorfod ymdopi gyda sefyllfa gwbl ddigynsail oherwydd amgylchiadau cenedlaethol a phenderfyniadau Llywodraeth San Steffan.

 

“Yn wahanol i argyfyngau’r gorffennol, mae’r ‘storm berffaith’ yma wedi’n bwrw dros gyfnod o fisoedd yn hytrach na blynyddoedd. Nid ydym felly wedi cael cyfle rhesymol i baratoi ac wedi gorfod symud yn eithriadol o gyflym.

 

“Ein blaenoriaeth bob amser wrth gwrs ydi amddiffyn gwasanaethau a’r effaith ar bobl Gwynedd. Felly, ers i’r sefyllfa ddechrau dod yn glir ym mis Tachwedd, mae swyddogion ar draws pob un o wasanaethau’r Cyngor wedi bod yn pori trwy ein holl gyllidebau gyda chrib mân er mwyn adnabod cynlluniau i bontio’r bwlch.

 

“O gofio fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi gwireddu £33.5 miliwn o arbedion dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae hyn wedi bod yn dasg hynod heriol.

 

“Serch hynny, rydym wedi llwyddo i adnabod £6.4miliwn o arbedion effeithlonrwydd posib i’w gweithredu o 2023/24 ymlaen – hynny yw, ffyrdd newydd neu wahanol o weithio sy’n costio llai ac felly sy’n ein galluogi am y tro i osgoi toriadau poenus i wasanaethau rheng flaen.

 

“Hyd yn oed wedyn, mae maint digynsail y bwlch ariannol a’r disgwyliad cyfreithiol arnom fel Cyngor i osod cyllideb gytbwys yn golygu na fydd gan y Cyngor Llawn ddewis yn anffodus ond ystyried cynyddu’r Dreth Cyngor ar 2 Mawrth.”

 

Mae’r rhagolygon a’r pwysau tebygol ar wasanaethau yn y tymor canolig yn golygu ei fod yn annhebygol y bydd y sefyllfa ariannol yn gwella am sawl blwyddyn.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Cyn gynted ag y byddwn yn cytuno ar gyllideb, arbedion effeithlonrwydd a lefel y Dreth Cyngor ar gyfer 2023/24 bydd y gwaith o flaenoriaethu cynlluniau pellach i arbed hyd at £2.2miliwn yn 2024/25 yn dechrau.  

 

“Tra bod cynllunio ariannol gofalus ac ymdrechion ein swyddogion yn golygu fod Cyngor Gwynedd mewn gwell sefyllfa na sawl cyngor arall i ymdopi, mae pendraw i’r hyn sy’n bosib heb gael gwir ardrawiad ar y cyhoedd. Oherwydd hyn, mae’n debygol na fydd dewis yn anffodus ond ystyried torri rhai o’n gwasanaethau o 2024/25 ymlaen.”

 

Nodiadau:

 

Bydd adroddiadau ar Strategaeth Ariannol a Chyllideb y Cyngor yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 9 Chwefror. Bydd yr arbedion yn cael eu hystyried gan Gabinet y Cyngor ar 14 Chwefror. Bydd Cyllideb y Cyngor yn cael ei osod gan y Cyngor Llawn ar 2 Mawrth.

 

Mae’r arbedion posib fydd yn derbyn ystyriaeth gan y Cabinet ar gyfer 2023/24 yn disgyn yn fras i fewn i 13 categori:

  • lleihau cyllidebau sy'n tanwario o ganlyniad i ffyrdd newydd o weithio yn dilyn Covid (£1.2m)
  • arbedion effeithlonrwydd - addasu trefniadau gweithio, newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaeth a’u darparu mewn ffordd rhatach (£1.7m)
  • cytuno i geisiadau gan fudiadau eraill a throsglwyddo adnoddau (£40k)
  • mewnoli trefniadau - darparu rhai gwasanaethau ein hunain yn hytrach na defnyddio contractwyr allanol (£0.4m)
  • cynyddu incwm - cynyddu’r ffi am wasanaethau ymgynghorol ac eraill (£0.9m)
  • dileu swyddi gwag  / lleihau cyllidebau staffio (£0.3m)
  • arbedion o ganlyniad i newid systemau neu ddefnydd amgen o systemau (£0.2m)
  • uchafu’r defnydd o grantiau sydd ar gael i ariannu swyddi a gweithgareddau (£0.4m)
  • lleihau cyllidebau hyfforddiant yn sgil cyflwyno ffyrdd newydd o ddarparu hyfforddiant (£50k)
  • ailstrwythuro i weithio’n fwy effeithlon (£0.3m)
  • lleihau adnoddau gan fod y galw a'r gofyn wedi lleihau (£0.2m)
  • peidio rhoi chwyddiant ar gyllidebau (£0.3m)
  • arbediad o ganlyniad i broses gaffael e.e. canlyniad tendr diweddar yn rhatach na’r hen gytundeb (£0.4m).