Cynllun peilot Arosfan Cyngor Gwynedd, safleoedd dros nos i gartrefi modur
Dyddiad: 14/02/2023
Yn ôl ym mis Mai 2022 bu i Gyngor Gwynedd sicrhau cyllid drwy raglen Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru i dreialu pum safle steil ‘aire’ dros nos ar gyfer cartrefi modur, fel rhan o brosiect i atal ymhellach y problemau amgylcheddol a chymdeithasol a achosir gan wersylla anghyfreithlon.
Mae cais i sefydlu’r pum safle prawf yn cael ei gyflwyno i Wasanaeth Cynllunio Gwynedd. Bydd y prosiect yn cael ei adnabod fel cynllun ‘Arosfan’, gyda’r safleoedd arfaethedig wedi’u lleoli yn:
• Maes parcio Shell, Caernarfon
• Y Glyn, Llanberis
• Maes parcio Y Maes, Cricieth
• Cei’r Gogledd, Pwllheli
• Maes parcio'r Promenâd, Abermaw
Os bydd y ceisiadau yn cael eu caniatáu, bydd gan bob un o’r pum safle Arosfan le i hyd at naw o gartrefi modur a fydd yn talu ffi i barcio am uchafswm o 48 awr, a fydd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer dŵr ffres, dŵr gwastraff cemegol, ailgylchu a sbwriel cyffredinol. Ni fydd gweithgareddau sy’n gysylltiedig â meysydd gwersylla traddodiadol yn cael eu caniatáu, megis tanau gwersyll a barbeciws.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:
“Rwyf wrth fy modd bod cynlluniau i dreialu safleoedd Arosfan yn cymryd cam arwyddocaol arall ymlaen. Rydym yn gweithio’n galed i gael y cydbwysedd cywir rhwng hyrwyddo diwydiant twristiaeth cynaliadwy, mynd i’r afael â’r materion a achosir gan wersylla dros nos anghyfreithlon ac anghyfrifol a hefyd bod yn barchus at fusnesau a mentrau preifat.
“Fel rhan o’r gwaith paratoi, rydym wedi gwrando ar farn a safbwyntiau cymunedau lleol, gweithredwyr meysydd gwersylla a pherchnogion cartrefi modur i ddeall y broblem a dod o hyd i ateb sy’n addas i bob sector.
“Mae prosiect Arosfan yn mynd law yn llaw ag ymgyrch ehangach i fynd i’r afael â gwersylla anghyfreithlon dros nos mewn mannau problemus penodol lle mae problemau amgylcheddol – fel sbwriel a gwaeth – wedi bod yn amlwg.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu’r Economi:
“Ers pandemig Covid, rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y nifer o bobl sy’n ymweld mewn cartrefi modur, ac mae diffyg cyfleusterau addas wedi arwain at nifer o broblemau amgylcheddol a chymdeithasol. Felly rwyf yn croesawu’r cynlluniau yma a fydd yn cyfrannu at ein nod o gael diwydiant twristiaeth mwy cynaliadwy.
“Bydd y safleoedd Arosfan arfaethedig i gyd wedi’u lleoli o fewn pellter cerdded i drefi a chyrchfannau allweddol a byddant yn gweithredu arhosiad llym o 48 awr ar y mwyaf. Anelir hyn at wneud defnydd o gysylltiadau trafnidiaeth ac isadeiledd lleol yn ogystal â sicrhau nad yw busnesau lleol yn colli allan wrth i bobl ddod i fwynhau’r profiad twristiaeth unigryw sydd gan Wynedd i’w gynnig.
“Yn ogystal â darparu mannau penodol ar gyfer faniau, bydd y Cyngor yn atgoffa ymwelwyr am y peryglon a achosir gan wersylla anghyfreithlon ac yn annog pobl i aros mewn meysydd gwersylla trwyddedig. Bydd mwy o orfodi a chyfyngiadau hefyd ar waith i dargedu mannau gwersylla anghyfreithlon poblogaidd.”
Os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo, y gobaith yw y bydd y pum safle prawf yn weithredol erbyn Gwanwyn, 2023 a bydd eu heffaith yn cael ei fonitro’n agos gan y Cyngor. Os bydd y peilot yn llwyddiannus, mae’n bosib y bydd rhagor o safleoedd yn cael eu datblygu ar draws y sir yn y dyfodol.
Nodiadau:
Cyflwynwyd adroddiad ar gartrefi modur yng Ngwynedd i Gabinet Cyngor Gwynedd ym mis Tachwedd 2021. Mae copi ar gael yma: https://www.visitsnowdonia.info/sites/default/files/2021-11/Cartrefi%20Modur%20Medi%202021.pdf
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn £240,000 drwy raglen Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect.