Cyngor Gwynedd yn nodi llwyddiant cyntaf y Cynllun Rhannu Cartref
Dyddiad: 01/02/2024
Mae’r pâr cyntaf i fanteisio ar gynllun Rhannu Cartref Gwynedd wedi rhannu eu profiadau gan sôn am y cyfle i gael cartref diogel a fforddiadwy ar un llaw, a chwmnïaeth a chefnogaeth o gwmpas y tŷ ar y llaw arall.
Lansiwyd cynllun Rhannu Cartref Cyngor Gwynedd y llynedd a'i nod yw paru pobl sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol i fyw'n annibynnol gartref ag eraill sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gartref addas a fforddiadwy. Mae pawb ar ei ennill gyda'r cynllun Rhannu Cartref.
Yn aml mae pobl yn colli eu hannibyniaeth oherwydd cyflwr iechyd neu am eu bod yn fregus mewn ffordd arall. Ond gall cael ychydig o help llaw o gwmpas y cartref wneud byd o wahaniaeth a helpu pobl i aros yn annibynnol ac yn fwy diogel am gyfnod hirach.
Ar y llaw arall, ceir nifer gynyddol o bobl yma yng Ngwynedd sy’n ei chael yn anodd dod o hyd i gartref addas oherwydd yr argyfwng tai.
Mae'r cynllun Rhannu Cartref yn dod i’r adwy gyda ateb sy’n bodloni’r ddwy ochr, gan alluogi person i rannu eu cartref a derbyn cymorth ymarferol o gwmpas y tŷ, er enghraifft gwneud neges, garddio neu hyd yn oed fynd â’r ci am dro. Mae'r person sy'n symud i mewn ar eu hennill drwy gael lle diogel a fforddiadwy i fyw.
Mae Audrey a James wedi bod yn cyd-fyw ers dau fis ac yn awyddus i rannu eu profiadau fel bod eraill yn dod yn ymwybodol o fanteision rhannu cartref drwy'r cynllun.
Mae Audrey yn wraig weddw yn ei 80au ac yn ei chael hi'n fwyfwy anodd ymdopi ar ei phen ei hun. Mae gan James ei gwmni tirlunio ei hun ac roedd wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith i Audrey pan gafodd ei hun yn chwilio am rywle i fyw yn dilyn newid mewn amgylchiadau. Drwy lwc, mae’r cynllun Rhannu Cartref wedi bod yn ateb perffaith i’r ddau.
Dywedodd Audrey: "Mae yna fanteision amlwg i’r cynllun Rhannu Cartref ac rwy'n credu ei fod yn wych. Mae fy mhlant – un ohonynt ddim yn byw yn lleol a'r llall yn gweithio llawn amser – yn cytuno ei fod yn rhoi tawelwch meddwl fod rhywun yma efo mi, yn arbennig petai argyfwng yn codi.
"Roedd gen i ddigon o le yn y tŷ, felly pan glywais i am y cynllun roedd yn gwneud synnwyr. Mae James yn gwmni mor dda ac yn fy helpu o gwmpas y tŷ. Mae'n coginio prydau blasus ac yn helpu gyda siopa ac ychydig o arddio.
"Mae cael James yma yn rhoi tawelwch meddwl a chwmnïaeth i mi, yn enwedig yn ystod nosweithiau hir y gaeaf."
Mae'r ddau wedi adnabod ei gilydd ers pum mlynedd ac wastad wedi cyd-dynnu ac roedd cymryd y cam i fod yn rhannu cartref yn gwneud synnwyr i'r ddau. Mae James yn helpu o gwmpas y tŷ am 10 awr bob wythnos gyda trefniant hyblyg sy’n cyd-fynd â'i fywyd gwaith.
Dywedodd James: "Mae'n anodd iawn dod o hyd i rywle parhaol i fyw heb orfod symud i ffwrdd oddi wrth fy nghymuned.
"Mae’r cynllun Rhannu Cartref yn gweithio mor dda i mi, alla i ddim coelio pa mor lwcus dw i wedi bod i ddod o hyd i le mor braf i fyw. Mi fyddai’n edrych ymlaen at goginio gyda'r nos a rhoi'r byd yn ei le efo Audrey.
"Os oes pobl eraill allan yna sy'n cael trafferth dod o hyd i rywle i fyw, byddwn yn bendant yn argymell eu bod yn ystyried i Rhannu Cartref Gwynedd."
Dywedodd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:
"Rwy'n croesawu Cynllun Rhannu Cartref Gwynedd yn fawr. Mae pobl yn wynebu cymaint o heriau yn ein cymunedau, yn enwedig yr henoed a phobl ifanc. Mae'r cynllun hwn yn cynnig atebion ymarferol a hyblyg sydd o fudd i'r ddwy ochr, gan helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd a phobl yn teimlo’n ynysig yn ogystal â’r diffyg mewn tai fforddiadwy."
Nid yw rhanwyr cartref yn talu rhent, ond gofynnir iddynt dalu ffi weinyddol fach i Rhannu Cartref Gwynedd am gostau rhedeg y cynllun. Mae'r broses baru wedi'i chynllunio'n ofalus a gwneir gwiriadau cefndir manwl i'r ddau berson er mwyn sicrhau bod y cynllun yn ddiogel ac yn effeithiol. Am fwy o fanylion am Rhannu Cartref Gwynedd – fel Lletywr neu Gwestai – cysylltwch â RhannuCartref@gwynedd.llyw.cymru / 07388 859015 neu ewch i'r wefan www.gwynedd.llyw.cymru/RhannuCartref