Cyngor Gwynedd yn ystyried cynllun i gyfarch bwlch ariannol o £15 miliwn
Dyddiad: 02/02/2024
Mae Cyngor Gwynedd wedi amlinellu’r her ddybryd fydd yn wynebu Cynghorwyr y sir wrth iddynt fwrw ymlaen i osod cyllideb ar gyfer 2024/25.
Daw hyn yn dilyn cadarnhad na fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi digon o gyllid i awdurdodau lleol allu parhau i gynnal gwasanaethau allweddol o Ebrill ymlaen. Golyga hyn, ynghyd â’r ffaith fod y galw am wasanaethau allweddol tebyg i ofal henoed a chartrefu’r digartref yn parhau i gynyddu yn aruthrol, y bydd Cynghorwyr yn gorfod dewis naill ai torri gwasanaethau y mae trigolion y sir yn ddibynnol arnynt, cynyddu’r Dreth Cyngor neu daro balans rhwng y ddau.
Mae diffyg ariannu digonol i’r sector gyhoeddus wedi golygu fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi gorfod darganfod £70 miliwn o arbedion a thoriadau dros y blynyddoedd diwethaf, ac wrth geisio gosod cyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod, bydd rhaid i Gynghorwyr y sir wneud penderfyniadau anodd er mwyn darganfod £15 miliwn arall eto.
Er na fydd dewis gan y Cyngor ond gweithredu nifer o doriadau i wasanaethau yn 2024/25, ac mae toriadau newydd gwerth £5.3 miliwn ar gyfer 2024/25 hefyd o dan ystyriaeth, bydd Cyngor Gwynedd yn parhau i amddiffyn y gwasanaethau mae plant a theuluoedd mwyaf bregus y sir yn dibynnu arnynt, ynghyd â gwarchod ysgolion y sir rhag toriadau ychwanegol.
Wedi pwyso a mesur manwl, bydd Cynghorwyr Gwynedd yn cytuno ar gyllideb derfynol yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 7 Mawrth, 2024 pan y bydd rhaid iddynt ystyried codi’r Dreth Cyngor 9.15% er mwyn gwarchod gwasanaethau hanfodol i drigolion Gwynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Yn anffodus, mae mwy o alw nag erioed am wasanaethau lleol fel gwasanaethau cymdeithasol i blant ac oedolion bregus a rhoi to uwchben y nifer gynyddol o bobl sy’n ddigartref yn y sir. Er enghraifft, rhag-amcanir y bydd costau llety argyfwng ar gyfer pobl sy’n ddigartref oddeutu £5.3 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
“I wneud sefyllfa ddyrys yn saith gwaeth, mae’n costio cymaint mwy i ni ddarparu’r holl wasanaethau. Rydym i gyd yn gwybod fod costau dydd-i-ddydd pawb – pethau fel trydan, nwy, petrol a bwyd – wedi codi’n sylweddol. Yn anffodus mae’r un peth yn wir i’r Cyngor ond ar raddfa llawer mwy.
“Er enghraifft, rydym yn rhagweld y bydd y gost o oleuo a gwresogi ein hysgolion, cartrefi preswyl ac adeiladau eraill £1.6 miliwn yn uwch yn 2024/25 o’i gymharu ag eleni. Mae’r gost o gludo disgyblion i’r ysgol wedi codi £1.5 miliwn yn ystod y flwyddyn hon a bydd yn codi £400,000 eto yn 2024/25.
“Rydym wedi bod yn rhybuddio’r Llywodraeth ers amser maith fod diffyg arian flwyddyn ar ôl blwyddyn yn rhoi’r gwasanaethau sydd ar gael i’n trigolion yn y fantol. Mae gen i wirioneddol ofn fod pethau wedi cyrraedd y pen draw a nad oes opsiwn bellach ond i dorri gwasanaethau a chynyddu’r dreth.”
“Ers blynyddoedd, rydym wedi gwneud pob ymdrech i amddiffyn y mwyaf bregus mewn cymdeithas rhag effeithiau negyddol cyllidebau ddaw o’r Llywodraeth sy’n crebachu’n flynyddol. Er gwaetha’r sefyllfa ariannol ddifrifol eleni, byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech i warchod gwasanaethau hanfodol plant bregus a’r maes addysg.”
Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gyllid:
“Eleni, mae Cyngor Gwynedd yn un o’r ddau gyngor sy’n derbyn y swm isaf o arian gan Lywodraeth Cymru gan fod ein poblogaeth wedi gostwng yn fwy na’r un awdurdod arall yn y wlad. Ond mae ein costau yn parhau i fod yn uchel – er enghraifft, dydi’r ffaith fod canran fechan yn llai o blant yn mynychu ein hysgolion ddim yn ei gwneud yn rhatach i gynhesu’r ystafell ddosbarth, i redeg y bws ysgol nag i wneud yn siŵr fod adeilad yr ysgol yn gadarn a diogel.
“Llynedd roedd modd i ni osgoi toriadau drwy gyflwyno ffyrdd newydd a blaengar o gynnal gwasanaethau, sydd wedi galluogi’r Cyngor i osgoi gwerth £6.4 miliwn o doriadau neu gynnydd treth cyngor.
“Byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth San Steffan i ariannu cynghorau lleol yn deg ac yn ategu neges Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymrufod arian canlyniadol sy’n deillio o arian ychwanegol i gynghorau Lloegr yn cael ei basio ymlaen yn llawn i gynghorau Cymru. Fel mae pethau’n sefyll, rydym yn rhagweld fod y sefyllfa dros y ddwy flynedd nesaf yn edrych yn argyfyngus.”
Mae cymorth ar gael i bobl sy’n ei chael yn anodd talu’r Dreth Cyngor, yn ogystal â phecyn cynhwysfawr o adnoddau i helpu ymdopi â’r argyfwng costau byw. Os ydych chi, neu rhywun rydych yn ei adnabod, yn poeni am eich sefyllfa ariannol, ewch i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/CostauByw
Nodiadau
Mae’r galw am wasanaethau allweddol a statudol yng Ngwynedd wedi cynyddu’n sylweddol. Er enghraifft:
- mae’r nifer o bobl sydd wedi cyflwyno’n ddigartref yng Ngwynedd wedi codi 35% ers 2018/19;
- mae nifer y cyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl Gwynedd wedi cynyddu i 5,565 yn 2022/23 – cynnydd o dros 2,000 ers 2019/20 ac mae’r niferoedd yn parhau i gynyddu;
- mae nifer y cyfeiriadau i Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Gwynedd wedi cynyddu i 7,175 yn 2022/23 – cynnydd o dros 2,500 ers 2019/20 ac mae’r niferoedd yn parhau i gynyddu;
- mae nifer y cyfeiriadau i Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Gwynedd wedi cynyddu i 4,558 yn 2022/23 – cynnydd o dros 400 rhwng 2020/21 a 2022/23. Mae disgwyl y bydd y tueddiad yma’n parhau yn sgil rhagolygon sy’n darogan cynnydd o oddeutu 23% yn nifer y bobl sydd dros 85 oed yn y Sir dros y 10 mlynedd nesaf;
- cynnydd sylweddol mewn ceisiadau am gefnogaeth i blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol;
- cynnydd sylweddol mewn costau darparu cludiant i ddisgyblion.
Camau nesaf y broses o osod cyllideb Cyngor Gwynedd:
- Cyflwynir adroddiad i Bwyllgor Archwilio a Llywodraethu Cyngor Gwynedd ar 8 Chwefror, 2024. Mwy o wybodaeth yma: Rhaglen ar gyfer Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar Dydd Iau, 8fed Chwefror, 2024, 10.30 y.b.
- Cyflwynir adroddiad i Gabinet Cyngor Gwynedd ar 20 Chwefror, 2024. Mwy o wybodaeth yma: Rhaglen ar gyfer Y Cabinet ar Dydd Mawrth, 20fed Chwefror, 2024, 1.00 y.h. (llyw.cymru)
- Cyflwynir adroddiad i’r Cyngor Llawn ar 7 Mawrth, 2024. Mwy o wybodaeth yma: Rhaglen ar gyfer Y Cyngor ar Dydd Iau, 7fed Mawrth, 2024, 1.30 y.h. (llyw.cymru)