Gwahoddiad i drigolion Dolgellau fynychu digwyddiad galw-i-mewn yn natblygiad tai â chefnogaeth Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 04/03/2024

Mae Cyngor Gwynedd yn gwahodd trigolion Dolgellau i sesiwn galw-i-mewn yn Nôl Sadler (Hen Ysgol Glan Wnion yn flaenorol), datblygiad tai â chefnogaeth newydd yn y dref ar 21 Mawrth 2024 o 4 i 6yh.

Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i bobl gael ymweld â’r adeilad ar ei newydd wedd, cyfarfod â staff y Gwasanaeth Digartrefedd a dysgu mwy am gynlluniau’r Cyngor ar gyfer rheolaeth dydd i ddydd y safle.

Mae'r adeilad, sydd wedi’i adeiladu o’r newydd ar safle’r hen ysgol fach, yn cynnwys pum uned fydd yn cartrefu unigolion bregus i allu byw yn annibynnol a chynnig cefnogaeth i fagu sgiliau fydd yn galluogi iddynt symud i denantiaeth eu hunain. Mae’r datblygiad hefyd yn cynnwys swyddfa ar gyfer staff y safle, i sicrhau cefnogaeth a chymorth parhaus i’r tenantiaid.

Ers Ebrill 2023, mae 885 o bobl wedi cyflwyno’n ddigartref yng Ngwynedd, gyda 158 o’r rheiny o Feirionnydd. Mae sicrhau bod neb yn ddigartref yn y sir yn flaenoriaeth allweddol yn Nghynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 ac mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu mwy o unedau tai â chefnogaeth, darparu llety i bobl ifanc ddigartref, a gweithio gyda landlordiaid preifat i sicrhau mynediad at eiddo ychwanegol. Daw’r holl gynlluniau hyn o dan Gynllun Gweithredu Tai gwerth £140 miliwn y Cyngor, i sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartrefi addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

“Yng Ngwynedd, mae costau byw â phrisiau tai wedi codi i’r entrychion, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gan waethygu’r sefyllfa dai a gwthio llawer iawn o bobl Gwynedd allan o'u cymunedau, ac mewn rhai achosion, allan o’u cartrefi.

“Mae datblygiadau fel hwn yn Nolgellau yn gam arwyddocaol ymlaen yn ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â digartrefedd. Mae’n golygu bod mwy o opsiynau bellach ar gael i gartrefu pobl sy’n wynebu digartrefedd o fewn neu’n agos i’w cymunedau yn rhannau deheuol y Sir.

“Dwi’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am gynlluniau’r Cyngor yn Nôl Sadler, neu’r cynlluniau ehangach i daclo digartrefedd yng Ngwynedd, i ymuno â ni ar gyfer y sesiwn galw mewn. Mae eich presenoldeb, eich mewnbwn a’ch ymholiadau yn amhrisiadwy wrth i ni weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau.”

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod dros ward Gogledd Dolgellau:

Rwy’n hynod falch o groesawu’r datblygiad cyffrous yma ar hen safle’r Ysgol Fach. Bydd yn adnodd pwysig i gefnogi’r rhai sydd angen cartref yn ein hardal. Mae digartrefedd yn broblem fawr sydd ar gynnydd, a’n dyletswydd a’n braint fel cyngor yw darparu cartrefi clyd i’r rhai sydd heb yr angen sylfaenol yma. Fel cyn ddisgybl i’r hen Ysgol Fach ‘rwy’n ystyried fod hwn yn ddefnydd newydd gwych i’r safle.

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn, cysylltwch â’r Cyngor ar: tai@gwynedd.llyw.cymru

Lleoliad: Dôl Sadler (Hen Ysgol Glan Wnion), Ffordd Arran, Dolgellau, LL40 1HW