Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn wedi ei raddio fel 'Da'.

Dyddiad: 12/03/2024

Datganiad i'r wasg gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn (GCI) wedi derbyn sgôr gyffredinol o ‘Dda’ yn dilyn arolygiad gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi.

Cafodd y gwasanaeth ei arolygu a'i raddio ar draws tri maes eang: y trefniadau ar gyfer darparu'r gwasanaeth yn sefydliadol, ansawdd y gwaith a wneir gyda phlant sy'n cael eu dedfrydu gan y llysoedd, ac ansawdd y gwaith yn ymwneud â datrysiadau y tu allan i'r llys.

Arolygwyd ansawdd y polisi ailsefydlu a’r ddarpariaeth hefyd a chafodd y rhain eu graddio ar wahân fel ‘Angen gwella’.

Dywedodd Prif Arolygydd y Gwasanaeth Prawf, Martin Jones: “Mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn ymroddedig i helpu plant i ymatal rhag troseddu pellach.

“Mae ymagwedd unigoledig yn helpu i sicrhau bod anghenion amrywiaeth plant yn cael eu hadnabod, a bod cymorth yn cael ei roi ar waith i’w helpu i ffynnu a chyflawni penderfyniadau cadarnhaol. Mae staff a gwirfoddolwyr yn gryfder - maen nhw’n garedig, yn feddylgar, yn gweithio’n dda gyda’i gilydd fel un tîm, ac yn eiriolwyr cadarnhaol i’r plant maen nhw’n eu goruchwylio.”

Nododd yr adroddiad fod gan y bwrdd rheoli strategol rai aelodau ymroddedig sy'n gweithio'n dda i ddefnyddio adnoddau ariannol ar gyfer y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ond, ers y pandemig, bu datgysylltiad ag ymarferwyr rheng flaen.

Roedd hefyd yn cydnabod ansawdd y perthnasoedd rhwng ymarferwyr a phlant, tra’n amlygu bod gwaith sy’n gysylltiedig â chefnogi diogelwch a lles plant a’u potensial i achosi niwed i eraill yn amrywiol a bod angen ei wella.

Ychwanegodd Mr Jones: “Gall y GCI fod yn gwbl falch o’r ffordd y mae’n estyn allan gyda charedigrwydd at blant i’w helpu i fyw eu bywydau gorau.  Rhaid iddynt ganolbwyntio nawr ar ddefnyddio canfyddiadau’r arolygiad hwn fel sbardun i sicrhau newid pellach.” 

 Cymraeg (justiceinspectorates.gov.uk)

DIWEDD 

 

Nodiadau i’r Golygydd

 

1.                 Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio gyda phlant 10 i 17 oed.  Mae'r GCI yn goruchwylio plant ag anghenion cymhleth a rhai sydd yng ngofal yr awdurdod lleol.

2.          Mae’r Arolygiaeth yn defnyddio graddfa pedwar pwynt: ‘Eithriadol’, ‘Da’, ‘Angen gwella’ ac ‘Annigonol’, gan raddio agweddau penodol ar bob gwasanaeth a rhoi sgôr gyffredinol.

3.                 Edrychodd yr arolygiad ar safonau darpariaeth sefydliadol (arweinyddiaeth, staffio a chyfleusterau), eu rheolaeth o blant sydd wedi cael dedfrydau llys (datrysiadau llys) a phlant sydd wedi cael rhybuddion neu ddedfrydau cymunedol (datrysiadau tu allan i'r llys).

4.                 Bydd yr adroddiad ar gael ar wefan HM Inspectorate of Probation website ar 12 Mawrth 2024 at 00.01.

5.                 Arolygiaeth Prawf EM yw arolygydd annibynnol cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf ledled Cymru a Lloegr.  

6.            Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer yr arolygiad hwn ym mis Tachwedd 2023.

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Louise Cordell, Pennaeth Cyfathrebu 07523 805224 / media@hmiprobation.gov.uk