Cyngor Gwynedd yn penodi dau Gyfarwyddwr newydd

Dyddiad: 01/08/2022
Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi dau Gyfarwyddwr Corfforaethol newydd i ymuno â Thîm Rheoli yr awdurdod, sef Dylan Owen a Geraint Owen.

Bydd Dylan Owen yn olynu Morwena Edwards, sy’n camu lawr o’i rôl fel Cyfarwyddwr Corfforaethol a Chyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol wedi 10 mlynedd o wasanaeth. Therapydd galwedigaethol yw Dylan yn ôl ei alwedigaeth a chyflawnodd ddoethuriaeth ym mhrifysgol Abertawe ar ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd gwasanaethau gofal.

Magwyd Dylan yn Nolgellau ac, wedi gadael Ysgol y Gader, treuliodd gyfnodau ym mholytechnig Pontypridd, a phrifysgolion Caerdydd, Caerwysg ac Abertawe, lle y bu’n byw ers dros 20 mlynedd. Ar ôl gadael Cyngor Gwynedd ar droad y mileniwm, bu’n gweithio gyda Chynghorau Sir Abertawe a Sir Gaerfyrddin, yn ogystal a Bwrdd Iechyd Hywel Dda mewn gwasanaethau integredig. Yn fwy diweddar bu’n bennaeth gwasanaeth yng Nghyngor Powys gyda’r gwasanaethau cymdeithasol.

Ar ei benodiad, dywedodd Dylan:

“Mae’n fraint cael fy mhenodi i’r swydd allweddol hon ac edrychaf ymlaen at yr her. Diolch i ymroddiad fy rhagflaenydd, Morwena a’r timau o staff brwdfrydig a gweithgar ar draws y ddwy adran, mae’r gwasanaethau hyn yn sefyll ar seiliau cadarn.  Rydw i wrth fy modd yn cael y cyfle i ddychwelyd i weithio i Wynedd ac i gefnogi’r gwasanaeth a’r Cyngor.”

Penodwyd Geraint Owen yn Gyfarwyddwr Corfforaethol.  

Wedi ei fagu yn Nefyn gan fynychu ysgolion Nefyn a Glan y Môr, astudiodd Gweinyddu Cyhoeddus yng Ngholeg Normal, Bangor ac yn ddiweddarach fe ddaeth yn aelod siartredig o Gymdeithas Proffesiynol Personél a Datblygu. Mae wedi gweithio ym myd llywodraeth leol ers 1985 gyda Cyngor Sir Gwynedd ac yna Cyngor Gwynedd ers 1996.

Dechreuodd ei gyfnod gyda Cyngor Sir Gwynedd yn yr Adran Addysg gan hefyd weithio o fewn gwasanaethau diwylliant a hamdden cyn canolbwyntio ar y maes adnoddau dynol. Fe'i benodwyd yn Bennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn 2015, lle bu'n gyfrifol am uno gwaith nifer o wasanaethau canolog y Cyngor.

Dywedodd Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol newydd y Cyngor:

“Dros y blynyddoedd diwethaf mae Cyngor Gwynedd, fel cynghorau eraill ar draws y wlad, wedi wynebu sefyllfaoedd heriol o bob cyfeiriad. Drwy hyn i gyd mae staff y Cyngor wedi llwyddo i roi anghenion pobl Gwynedd wrth galon popeth maent yn ei wneud.

 

“Rwyf wedi gweithio i Gyngor Gwynedd, a chyn hynny i Gyngor Sir Gwynedd, gydol fy ngyrfa ac mae cael fy mhenodi i’r swydd yma yn anrhydedd. Dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar i gydweithio efo swyddogion a chynghorwyr i adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd hyd yma gan wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau Gwynedd.”

Meddai Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd:

“Llongyfarchiadau mawr i Dylan a Geraint, rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â’r ddau.

“Rŵan fod y Cyngor yn dechrau ar y cyfnod ôl-Covid o’r diwedd, a’n bod bellach yn nhymor newydd y Cyngor yn dilyn etholiadau lleol mis Mai, mae’n amserol i ni fod yn addasu strwythurau’r Cyngor er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau posib i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol i drigolion Gwynedd.

“Gyda hyn mewn golwg – ac wedi cael cyfle i wrando a dysgu gan staff ac Aelodau’r Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf – rydw i’n hyderus y bydd y penodiadau hyn yn gam arall tuag at wella ein gallu i gyflawni ar ran trigolion Gwynedd.” 

Bydd Geraint Owen yn dechrau yn eu swyddi newydd ar y 1af o Awst a Dylan Owen yn dechrau ei swydd ar y 1af o Hydref.

Nodiadau

Daw y penodiadau hyn yn dilyn penderfyniad Cabinet y Cyngor i newid strwythur uwch reolaethol y Cyngor. Fel rhan o’r newid bydd y Cyngor yn:

  • Diddymu swydd Pennaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd ar ymddeoliad y Pennaeth presennol, ac yn cyfuno’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgyhoriaeth Gwynedd i greu un adran newydd.
  • Trosglwyddo’r unedau Gwastraff ac Ailgylchu o’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i’r Adran Amgylchedd a symud un swydd Pennaeth Cynorthwyol/Uwch Reolwr yn yr un modd.

Bydd y newidiadau hyn yn cyflawni arbediad refeniw blynyddol net o oddeutu £81,000.