Carreg filltir i gynllun cartref preswyl Cyngor Gwynedd
Dyddiad: 17/04/2023
Mae datblygiad iechyd a gofal newydd yn ardal Penrhos, Llŷn gam yn nes wedi i Gabinet Cyngor Gwynedd gytuno i symud ymlaen i wneud cais am £14.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ariannu codi a datblygu cartref gofal newydd.
Mae trafodaethau eisoes wedi dechrau gyda Llywodraeth Cymru i ailfodelu’r sector gofal yn yr ardal ac adeiladu cartref gofal newydd ar safle’r hen Gartref Pwylaidd, ym Mhenyberth, Penrhos. Bydd gan y cartref newydd oddeutu 60 o welyau gyda chymysgedd o ofal dementia, nyrsio a gofal seibiant.
Bydd dwy acer o dir ym Mhenyberth, Penrhos yn cael ei drosglwyddo i’r Cyngor gan Asiantaeth Dai Clwyd Alyn i bwrpas y prosiect hwn.
Bydd adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y Cyngor nawr yn cyflwyno achos busnes i’r llywodraeth gan ofyn am gyllid o’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IRCF), mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
Yn ôl yng Ngorffennaf 2022, cytunodd Cyngor Gwynedd a BIPBC ar bartneriaeth ffurfiol i ddarparu lleoliadau gofal nyrsio o fewn y sir. Ers hynny, mae gwaith wedi ei wneud i ymchwilio sut y gall y ddau bartner gydweithio i sefydlu model gofal arloesol, di-dor ac effeithiol i gwrdd ag anghenion trigolion Gwynedd yn y dyfodol.
Bwriad y prosiect cyffrous hwn yw gwella a sefydlogi gofal nyrsio o fewn y sir. Tra bod y Cyngor ei hun yn ddarparwr sylweddol o ofal preswyl, ar hyn o bryd darparwyr gofal annibynnol neu drydydd sector yn unig sy’n cynnal cartrefi nyrsio o fewn y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer yr adran Oedolion Iechyd a Llesiant: “Mae sicrhau fod gan bobl leol y gofal maent yn eu haeddu yn eu cynefin yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Mae darpariaeth cartrefi gofal lleol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel yn rhan allweddol o unrhyw drefniadaeth iechyd a gofal. Heb hyn, mae pobl wedi’u hamddifadu o’r cyfleoedd iechyd a llesiant a ddylai fod ar gael i bawb.
“Yn anffodus, mae yna brinder enbyd o lefydd mewn cartrefi nyrsio ar draws y sir a’r sefyllfa yn fwy difrifol byth yn ardal Llŷn, heb unrhyw ddarpariaeth drwy law y sector gyhoeddus o gwbl. Mae cyfran fwy o boblogaeth Llŷn yn gorfod teithio ymhellach o adref i gael y gofal nyrsio cywir.
“Mae’n sefyllfa dorcalonnus lle mae pobl ar eu mwyaf bregus yn gorfod teithio milltiroedd o'u cartrefi, eu teuluoedd a phopeth sy’n annwyl iddynt i gael llety a gofal addas. Os yw pobl yn cael eu gorfodi i symud tu allan i Wynedd am ofal nyrsio, mae’n anoddach i sicrhau gwasanaethau iaith Gymraeg, sydd yn aml yn gwaethygu’r sefyllfa i’r unigolyn.
“Dyma pam yr ydym yn benderfynol o weithio gyda’n partneriaid o’r Bwrdd Iechyd i sicrhau’r datblygiad cyffrous hwn.”
Mae’r adroddiad a gymeradwywyd gan Gabinet Cyngor Gwynedd yn cydnabod bod model gofal Cartref Pwylaidd Penrhos gynt yn arloesol iawn o ran cadw ei drigolion yn iach ac yn annibynnol; ac yn tanlinellu pwysigrwydd cynnal ac adeiladu ar yr ethos hwn gyda datblygiad y cartref newydd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan:
“Mae’r prosiect hwn hefyd yn newyddion da i’r holl gymuned gan ein bod yn buddsoddi yn y broses adeiladu a bydd cyfleoedd tymor hir o fewn y sector gofal. Bydd swyddi gwerth uchel, parhaol gyda’r posibilrwydd o ddilyniant gyrfa yn y cartref newydd.
“Edrychwn ymlaen at barhau gyda’n hymgyrch recriwtio i ddenu’r bobl iawn i’r swyddi hyn, a gwneud y mwyaf o sgiliau iechyd, gofal ac iaith Gymraeg yn y gweithle.”
Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn croesawu’r fenter gyffrous hon ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd ar gynllunio’r datblygiad wrth iddo symud i’r cam nesaf.”
Bydd swyddogion y Cyngor rŵan yn datblygu cynlluniau a dyluniadau manwl, i’w cyflwyno i’r broses gynllunio ffurfiol yn ystod hydref 2024, gyda’r bwriad o ddechrau’r gwaith adeiladu yn ystod yr hydref 2025. Y gobaith yw bydd y cartref yn cael ei gwblhau ac yn barod i groesawu’r trigolion cyntaf yn 2027.