Cyngor Gwynedd yn ymateb i anghenion y gymuned fusnes leol
Dyddiad: 25/04/2023
Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill i fuddsoddi bron i £3 miliwn i ddatblygu 10 uned waith newydd mewn parc busnes ym Minffordd ger Penrhyndeudraeth, er mwyn cyfarch anghenion busnes newydd.
Daw’r newyddion da yma i’r gymuned fusnes leol wedi i Gabinet Cyngor Gwynedd awdurdodi bwrw mlaen efo’r cynllun yn eu cyfarfod ar 25 Ebrill.
Mae Cyngor Gwynedd am sicrhau llain o dir sydd i’w ryddhau gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Busnes Eryri i’r pwrpas, gyda’r bwriad o godi pum adeilad fydd yn gartref i 10 uned gwaith. Bydd modd uno'r unedau unigol o fewn adeilad gan gynnig yr opsiwn i'w gosod fel unedau mwy o faint, yn ôl anghenion y gymuned fusnes leol.
Bydd yr unedau yn sero net o ran eu defnydd ynni, gyda phaneli solar ac unedau systemau gwresogi pwmp ffynhonnell aer yn cael eu gosod ynddynt. Bydd hyn yn cyfrannu i ymateb y Cyngor i'r argyfwng newid hinsawdd ac yn lleihau pwysau ariannol ar denantiaid.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygiad economaidd: “Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn i’r gymuned fusnes yng Ngwynedd ac yn benodol i’r ardal yma o’r sir.
“Mae angen dybryd am dir cyflogaeth ac unedau gwaith ledled Gwynedd. Mae'r Cyngor yn awyddus i ymateb drwy gydweithio â datblygwyr masnachol a chodi unedau ble mae angen, felly mae'r datblygiad yma'n gam bwysig ymlaen. Rydym wedi gwrando ar y sector yn lleol a dwi’n hynod falch ein bod yn gallu gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y ddarpariaeth newydd yma.
“Mae’r cynllun hwn yn bosib drwy neilltuo £2 filiwn o Gynllun Rheoli Asedau’r Cyngor ynghyd â £925,000 gan Lywodraeth Cymru i sbarduno’r economi leol.
“Rydw i’n edrych ymlaen at weld yr unedau hyn yn cael eu codi a busnesau yn symud i fewn, a’r budd ddaw i’r ardal ehangach.”
Mae'r Adran Economi a Chymuned y Cyngor hefyd yn gweithio gyda timau cynllunio Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i adnabod ac ymateb i anghenion busnesau lleol i'r dyfodol.
Os bydd caniatâd cynllunio, y gobaith yw bydd pryniant y tir a phenodi cytundebwyr wedi ei gwblhau erbyn yr haf eleni, gyda gwaith adeiladu yn dechrau yn yr hydref a’r gwaith wedi ei gwblhau a’r unedau yn barod i groesawu tenantiaid newydd yn yr haf 2024.
Llun: Y Cynghorydd Nia Jeffreys ym Mharc Busnes Eryri